Newyddion S4C

Atal cwch oedd yn cario nwyddau dyngarol i Gaza

Madleen Gaza

Mae cwch sydd yn cario nwyddau dyngarol i Gaza wedi ei atal gan filwyr Israel.

Yn ôl yr ymgychwyr sydd ar y cwch, sy’n cynnwys Greta Thunberg, fe gafon nhw eu “herwgipio”.

Ond mae Israel yn dweud nad oes yna neb o’r 12 sydd ar y cwch wedi eu brifo.

Yn ôl Gweinyddiaeth Dramor Israel mae’r Madleen yn “ gwch hun-lun” ac yn llawn “enwogion”.

Dywedodd y weinyddiaeth bod y cwch yn cael ei dywys yn “saff” i Israel ac y byddant wedyn yn dychwelyd i’w gwledydd.

Ymhlith y rhai sydd ar ei bwrdd mae Rima Hassan, aelod Ffrainc o Senedd Ewrop a dinasyddion eraill o’r Almaen, Brasil, Sbaen, Yr Iseldiroedd a Thwrci.

Mae Gweinidog Amddiffyn Israel wedi gorchymyn bod y teithwyr yn cael dangos fideo o’r ymosodiadau ddigwyddodd ar yr 7fed o Hydref pan fyddant yn cyrraedd Israel.

Yn gynharach y mis yma dywedodd y Cenhedloedd Unedig bod mwy na dwy filiwn o bobl yn Gaza mewn perygl o lwgu.

Mae Israel yn ddiweddar wedi caniatáu ychydig o fwyd i mewn i Gaza ar ôl tri mis o warchae.

Mae’r nwyddau wedi bod yn cael eu dosbarthu trwy safleoedd i ddosbarthu bwyd. Sefydliad Dyngarol Gaza sydd wedi bod yn gyfrifol am y safleoedd ac mae’n rhwydwaith sy’n cael ei gefnogi gan Israel ac America.

Ond mae dwsinau o Balesteiniad wedi eu lladd a channoedd wedi eu brifo yn trio cyrraedd y safleoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.