Newyddion S4C

Cyhoeddi tro pedol sylweddol ar daliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr

Rachel Reeves

Fe fydd tua naw miliwn o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr yn derbyn taliad tanwydd gaeaf y gaeaf hwn, yn ôl cyhoeddiad gan y Canghellor ddydd Llun.

Bydd y taliad, gwerth hyd at £300, yn cael ei adfer i'r mwyafrif helaeth o bensiynwyr oedd yn ei dderbyn yn flaenorol.

Fe fydd unrhyw un sydd ar eu pensiwn a gydag incwm o dan £35,000 y flwyddyn bellach yn cael y taliad yn awtomatig.

Bydd y rhai sydd ag incwm uwchlaw'r trothwy hwn hefyd yn derbyn y taliad, ond yna fe fydd yn cael ei hawlio'n ôl ganddynt mewn trethi.

I fod yn gymwys ar gyfer y lwfans tanwydd gaeaf, bydd angen i berson fod wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth erbyn yr wythnos sy'n dechrau 15 Medi eleni.

Bydd awdurdodau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn cynydd yn eu cyllid i ddarparu'r taliad newydd.

Bydd pensiynwyr nad ydynt am dderbyn y taliad yn gallu optio allan, yn ôl y Trysorlys.

'Targedu yn deg'

Y penderfyniad i gyfyngu taliad tanwydd y gaeaf i'r rhai oedd yn hawlio credyd pensiwn yn unig oedd un o gamau cyntaf Llafur mewn Llywodraeth, gyda'r nod o lenwi'r hyn a ddisgrifiwyd ar y pryd fel "twll du" gwerth £22 biliwn yn y pwrs cyhoeddus.

Mae'r Trysorlys yn honni y bydd y trefniant newydd yn costio £1.25 biliwn yng Nghymru a Lloegr, tra bydd prawf modd ar danwydd gaeaf yn arbed £450 miliwn i'r trethdalwr.

Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves: “Roedd targedu taliadau tanwydd gaeaf yn benderfyniad anodd ond y penderfyniad cywir oherwydd yr etifeddiaeth a adawyd inni gan y llywodraeth flaenorol.

“Mae hefyd yn iawn ein bod yn parhau i brofi modd ar y taliad hwn fel ei fod wedi ei dargedu ac yn deg, yn hytrach nag adfer cymhwysedd i bawb gan gynnwys y cyfoethocaf.

“Ond rydym bellach wedi gweithredu i ehangu cymhwysedd y taliad tanwydd gaeaf fel na fydd unrhyw bensiynwr ar incwm is yn colli allan.

“Bydd hyn yn golygu y bydd dros dri chwarter o bensiynwyr yn derbyn y taliad yng Nghymru a Lloegr yn ddiweddarach y gaeaf hwn.”

Mewn ymateb i dro pedol y Canghellor, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: "Nid yw targedu'r rhai mwyaf agored i niwed byth yn ddull cywir. Gadawodd penderfyniad Llafur i dorri taliadau tanwydd gaeaf y llynedd filiynau o bensiynwyr yn wynebu caledi ac ansicrwydd gwirioneddol. 

"Dyma bobl sy'n haeddu diogelwch, nid esgeulustod. Er bod tro pedol Reeves i'w groesawu, mae'n amlwg ei fod wedi'i yrru gan arolygon barn, nid egwyddor. 

"Pe bai'r bobl fwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth wirioneddol i Lafur, ni fyddent angen pwysau cyhoeddus i weithredu ac ni fyddai'r toriadau hyn byth wedi'u gwneud yn y lle cyntaf."

Galwodd hefyd ar y llywodraeth i wneud tro pedol ar y penderfyniad i dorri budd-dal y Cynllun Annibyniaeth Personol (PIP).
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.