Newyddion S4C

Pum mlynedd o garchar i ddyn am drywanu dyn ar stryd yn Llandrindod

Ricco Douglas

Mae dyn o Birmingham wedi’i garcharu am dros bum mlynedd ar ôl trywanu dyn ar stryd yn Llandrindod, ar ôl teithio i'r dref i brynu cyffuriau.

Ymosododd Ricco Douglas, 25 oed, o The Bungalow, Parc Cadwraeth Bywyd Gwyllt Birmingham, ar y dyn yn Hillcrest Rise yn y dref ar 14 Rhagfyr 2024. 

Yr oedd wedi ei drywanu sawl gwaith â chyllell, ac fe gafodd y dioddefwr ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Aeth swyddogion arfog i leoliad y digwyddiad ar y pryd.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun bod Douglas wedi teithio o ganolbarth Lloegr ar ddiwrnod y digwyddiad i gwrdd â’r dioddefydd er mwyn cael, neu gyfnewid, cocên. 

O fewn 14 munud ar ôl cyrraedd Llandrindod, roedd Douglas wedi trywanu'r dyn. Y gred yw bod yr ymosodiad wedi digwydd oherwydd bod y ddêl gyffuriau wedi mynd o’i le.

Gwaed

Arestiwyd Douglas dridiau’n ddiweddarach ar ôl i’r heddlu weld ei gar yn ardal Birmingham. Daethpwyd o hyd i olion gwaed y dioddefwr tu mewn i’r cerbyd.

Ar 21 Mawrth, plediodd Douglas yn euog i anafu gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol. 

Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a thri mis o garchar ddydd Llun.  

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd hwn yn ddigwyddiad treisgar a ddigwyddodd ar stryd breswyl ychydig cyn y Nadolig llynedd. Yr oedd yn ffodus iawn na chollodd neb ei fywyd...

“Gwyddom fod y digwyddiad hwn wedi bod yn sioc i’r gymuned leol, yn enwedig y rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf. 

“Croesawn ddedfryd Ricco Douglas heddiw a gobeithiwn ei bod yn sicrhau pawb yn glir na fyddwn ni’n dioddef trais ar ein strydoedd.   

“Hoffwn ddiolch i’r holl ymatebwyr cyntaf a’r staff yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, ar y noson am y lefel o ofal a thriniaeth a roddwyd i’r dioddefwr, a allai fod wedi achub ei fywyd. 

"Hoffwn ddiolch hefyd i’n swyddogion a’n staff o fewn yr heddlu, a arddangosodd benderfyniad mawr i ddwyn y troseddwr i gyfiawnder ar ran y dioddefydd a’i deulu a’r gymuned ehangach.”  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.