Gwahardd cystadleuwyr da byw o Loegr a’r Alban o’r Sioe Frenhinol oherwydd y tafod glas
Gwahardd cystadleuwyr da byw o Loegr a’r Alban o’r Sioe Frenhinol oherwydd y tafod glas
Mae Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol wedi dweud ei fod wedi bod yn “benderfyniad anodd” gwahardd cystadleuwyr o Loegr a’r Alban eleni.
Oherwydd y tafod glas ni fydd arddangoswyr o’r Alban a Lloegr yn cael dod a’u da byw i’r sioe y flwyddyn hon.
Trefnwyr y Sioe Frenhinol sydd wedi penderfynu gwahardd cystadleuwyr da byw rhag teithio drwy unrhyw barth tafod glas er mwyn cyrraedd y safle.
Ac o 1 Gorffennaf bydd Lloegr gyfan yn un o’r parthau hynny.
Mae hynny yn ei dro yn golygu na fydd yna arddangoswyr o Loegr na’r Alban yn cael cystadlu.
Mae sioe'r Royal Highland sy’n digwydd y mis yma eisoes wedi cymryd penderfyniad tebyg.
“Da ni’n siomedig ac mae nifer o’n harddangoswyr ni’n siomedig - pobl sydd wedi bod yn driw ac yn ffyddlon i’r Sioe ers blynyddoedd,” meddai Aled Rhys Jones, prif weithredwr y sioe, wrth raglen Ffermio ar S4C.
“Ond dyna’r peth mwyaf cyfrifol i wneud. Da ni wedi bod yn dilyn y wyddoniaeth, dilyn y cyngor milfeddygol.
“Ac mi’r ydan ni’n unol â’r sioeau eraill.”
‘Ergyd’
Yn yr adran ddefaid mae tua 18% yn dod o’r tu allan i Gymru. Ond bydd y Sioe Frenhinol yn gweithio trwy restr aros yn y gobaith o wahodd mwy o arddangoswyr o Gymru.
Mae tua 40% o’r gwartheg yn dod o du allan i Gymru sydd am fod yn “gryn dipyn o ergyd” meddai Aled Rhys Jones.
“Rydyn ni wedi bod yn cadw golwg agos iawn ar y clefyd ers rhaid misoedd bellach.
“Ac yn dilyn y datganiad diweddara' lle da ni’n gwybod nawr ma’ DEFRA wedi cyhoeddi o’r 1af o Orffennaf bydd Lloegr gyfan yn dod fewn i’r ardal dan gyfyngiadau."
Ychwanegodd: “Da ni wedi bod yn gyson yn ein rheoled ein bod ni ddim yn gallu derbyn ceisiadau am wartheg, defed neu eifr sydd yn dod o’r ardaloedd rheini lle ma’r clefyd yn bodoli.
“A dyna’r cyngor milfeddygol ydan ni wedi bod yn cael er mwyn diogelu ein harddangoswyr o Gymru.
“Ond wrth gwrs yn dilyn y datganiad diweddara yma mae’n cael cryn dipyn o effaith - arddangoswyr o Loegr a’r Alban yn anffodus methu dod eleni.”
Dywedodd y bydd yna rywfaint o golled i’r sioe o ganlyniad i golli’r ffi gofrestru.
Bydd Ffermio yn cael ei darlledu ar S4C am 22.00 ddydd Llun.