Newyddion S4C

Israel yn ymosod ar safleoedd niwclear yn Iran

Israel yn ymosod ar Iran

Mae Israel wedi ymosod ar ddwsinau o safleoedd milwrol yn Iran ddydd Gwener, gan gynnwys rhai niwclear.

Mae ffrwydradau wedi eu clywed yn y brifddinas Tehran ddiwrnod wedi i Iran ddweud y byddai'n cynyddu ei hallbwn o wraniwm.

Dywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, mai rhaglen niwclear Iran yw targed eu hymosodiadau.

Mae Israel bellach wedi cyhoeddi stad o argyfwng, gan ddweud ei bod yn disgwyl i Iran daro yn ôl "yn y dyfodol agos".

Mae'r cyfryngau yn Iran yn dweud bod ardaloedd preswyl yn Tehran wedi eu taro a bod sifiliaid ymhlith y rhai a gafodd eu lladd.

Mae pennaeth Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd Iran, Hossein Salami yn ogystal â gwyddonwyr niwclear hefyd wedi eu lladd.

Mae Iran wedi cyhuddo'r Unol Daleithiau o gefnogi ymosodiad Israel, ond mae'r Unol Daleithiau wedi gwadu'r cyhuddiad yma'n gryf. 

'Moment beryglus'

Wrth siarad ar ran Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, dywedodd llefarydd ei fod "yn arbennig o bryderus ynghylch ymosodiadau Israel ar safleoedd niwclear yn Iran tra bod trafodaethau rhwng Iran a'r Unol Daleithiau am rhaglen niwclear Iran ar y gweill".

"Mae'r Ysgrifennydd Cyffredinol yn gofyn i'r ddwy ochr ddangos yr ataliaeth fwyaf posibl, gan osgoi ar bob cyfrif ddisgyn i wrthdaro pellach, sefyllfa na all y rhanbarth ei fforddio," meddai.

Dywedodd Israel bod Iran wedi tanio tua 100 o ddronau tuag at ei thiriogaeth.

Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi annog "pob plaid i gamu'n ôl a lleihau tensiynau ar frys".

Dywedodd: "Rhaid i sefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol fod yn flaenoriaeth ac rydym yn ymgysylltu â phartneriaid i ddad-ddwysáu.

"Nawr yw'r amser i atal, tawelu a dychwelyd at ddiplomyddiaeth."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, David Lammy, fod hyn yn "foment beryglus".

Dywedodd: "Mae sefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol yn hanfodol ar gyfer diogelwch byd-eang.

"Mae dwysáu pellach yn fygythiad difrifol i heddwch a sefydlogrwydd yn y rhanbarth ac nid yw er budd neb."

Llun: Reuters

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.