Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn o Gasnewydd a'i deulu wedi'r ddamwain awyren yn India

ITV Cymru
Akeel Nanabawa a'i deulu

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn o Gasnewydd, a'i wraig a'u merch, oedd ymhlith y 52 o bobl o Brydain fu farw yn namwain awyren Air India ddydd Iau.

Roedd yr awyren rhif AI171 yn teithio o faes awyr Ahmedabad i faes awyr Gatwick yn Llundain yn cario 230 o deithwyr a chriw o 12, cyn iddi blymio i'r ddaear yn y ddinas, pum munud ar ôl cychwyn y daith.

Bu farw 241 o bobl yn y ddamwain, gydag un person yn goroesi, Prydeiniwr o’r enw Vishwash Kumar Ramesh, oedd yn eistedd yn sedd 11A.

Roedd dyn busnes o’r enw Akeel Nanabawa ar yr awyren, yn ogystal â’i wraig Hannaa Vorajee a’u merch.

Fe gafodd Mr Nanabawa ei fagu yng Nghasnewydd, cyn symud i fyw i Sir Gaerloyw gyda’i deulu.

Mewn teyrnged a gafodd ei rannu gan Imam Abdullah, dywedodd y teulu eu bod nhw yn “dorcalonnus wrth ddisgwyl am wybodaeth bellach” am eu perthnasoedd.

“Mae’r newyddion wedi ein chwalu ni, ac rydym yn dal i ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd," meddai'r deyrnged.

“Roedd y teulu ifanc hwn yn hynod o glos - rhieni ymroddedig a merch ifanc hardd.

“Roeddent yn aelodau gweithgar o'r gymuned oedd llawn tosturi ac oedd yn gwirfoddoli'n rheolaidd yn ein hysgol Islamaidd leol ac ar gyfer amrywiol brosiectau lleol.”

Fe ychwanegodd: "Roedd pawb yn eu caru a’u parchu’n fawr. 

“Fe gafodd haelioni tawel Akeel, cynhesrwydd a charedigrwydd Hannaa, ac ysbryd llawen, disglair eu merch effaith barhaol ar bawb oedd yn eu hadnabod.

“Roedd hi'n belydryn o heulwen yn ei hysgol, ac roedden nhw'n golofn o nerth yn ein bywydau.

“Mae'r drasiedi hon wedi ysgwyd ein cymuned gyfan. Mae'n gymuned lle mae pobl yn adnabod ac yn gofalu am ei gilydd, ac mae'r boen yn cael ei rhannu gan lawer.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.