Cyn AS ac aelod presennol o’r Senedd o flaen llys wedi'u cyhuddo o dwyllo wrth gamblo
Mae cyn AS ac aelod o’r Senedd wedi ymddangos o flaen llys wedi'u cyhuddo o dwyllo wrth gamblo ar ddyddiad etholiad cyffredinol 2024.
Mae Craig Williams, 39, a oedd yn AS Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn a Gogledd Caerdydd, wedi ei gyhuddo o dwyllo wrth gamblo a thri chyhuddiad o alluogi neu gynorthwyo eraill i dwyllo.
Roedd Williams, of Lanfair Caereinion, Y Trallwng, wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd preifat seneddol i Rishi Sunak yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog.
Ymysg y diffynyddion eraill roedd Russell George, 50, sy’n aelod presennol annibynnol o’r Senedd dros Faldwyn ar ôl cael ei atal gan ei blaid.
Yno hefyd oedd Thomas James, 38, cyn gyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig sydd bellach wedi ei atal o’r blaid.
Roedd 12 o bobl eraill hefyd wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o droseddau tebyg.
Daw'r cyhuddiadau ar ôl i ‘Ymgyrch Scott’ gael ei lansio i ymchwilio i hapchwarae gan wleidyddion a gweithwyr y Blaid Geidwadol yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 2024.
Yn erlyn ar ran y Comisiwn Gamblo, dywedodd Sam Stein KC: "Roedd Ymgyrch Scott yn ymchwiliad a lansiwyd gan y comisiwn gamblo i wleidyddion a gweithwyr y Blaid Geidwadol, a chyn-swyddog heddlu ... a oedd wedi gosod betiau ar ddyddiad etholiad cyffredinol 2024 gan elwa ar wybodaeth gyfrinachol neu fewnol ynghylch pryd y gallai'r dyddiad hwnnw fod.
"Mae'r erlyniad yn dweud bod gosod betiau gyda gwybodaeth fewnol yn drosedd, sef twyllo."
Clywodd y llys bod cynllunio wedi digwydd yn Downing Street a Phencadlys Ymgyrch y Ceidwadwyr cyn galw etholiad Gorffennaf 4.
Mae’r erlyniad yn honni bod y 15 diffynnydd wedi gosod betiau yn seiliedig ar wybodaeth gyfrinachol a gafwyd o'r ystafelloedd hynny, neu wedi galluogi eraill i osod betiau trwy basio'r wybodaeth honno ymlaen.
Plediodd deuddeg o'r diffynyddion yn ddieuog ddydd Gwener, gan gynnwys Russell George a Thomas James.
Y difinyddion eraill a bleidiodd yn ddieuog oedd Simon Chatfield, 51, o Farnham, Surrey; Amy Hind, 34, o Loughton, Essex; Anthony Hind, 36, o Loughton, Essex; Charlotte Lang, 36; Anthony Lee, 47; Laura Saunders, 37; Iain Makepeace, 47, o Newcastle Upon Tyne; Nick Mason, 51; Paul Place, 53, o Hammersmith, gorllewin Llundain; a James Ward, 40, o Leeds.
Ni wnaeth y cyn-AS Williams ynghyd â Jacob Willmer, 39, o Richmond, Gorllewin Llundain, a'r cyn-swyddog heddlu Jeremy Hunt, 55, o Horne yn Surrey, roi unrhyw arwydd o bledio.
Bydd y 15 yn ymddangos yn Llys y Goron Southwark ar Orffennaf 11. Cafodd yr holl ddiffynyddion eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.