Newyddion S4C

Y blynyddoedd nesaf yn 'dyngedfennol i'r iaith Gymraeg'

Efa Gruffudd Jones

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod y blynyddoedd nesaf yn "dyngedfennol i'r iaith" wrth lansio maniffesto "uchelgeisiol."

Fe gyhoeddodd y Comisiynydd, Efa Gruffudd Jones faniffesto ddydd Gwener sydd â "blaenoriaethau clir y mae’n gobeithio y bydd yr holl bleidiau yn barod i’w mabwysiadu cyn etholiad Senedd Cymru yn 2026."

Yn ei maniffesto mae hi'n amlinellu pum maes sydd angen eu blaenoriaethu er mwyn gwneud "gwahaniaeth gwirioneddol" i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg pan fydd tymor newydd y Senedd yn cychwyn.

Mae'r rhain yn cynnwys ymestyn safonau’r Gymraeg i "feysydd blaenoriaeth", creu uned arbenigol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a sicrhau hyfforddiant Cymraeg gorfodol ar gyfer y gweithlu addysg.

Y meysydd dan sylw gan Gomisiynydd y Gymraeg ydy:

  • Dyletswyddau iaith - cynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd drwy ymestyn safonau’r Gymraeg i feysydd blaenoriaeth.
  • Cynllunio ieithyddol cymunedol - ymestyn dylanwad y Comisiynydd drwy gryfhau’r safonau hybu fel fframwaith i gydlynu cynllunio ieithyddol cymunedol dwys.
  • Gweithleoedd - sefydlu uned arbenigol yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gynyddu’r defnydd o'r Gymraegmewn gweithleoedd.
  • Gwasanaeth iechyd a gofal clinigol - trawsnewid gofal clinigol yn Gymraeg drwy fuddsoddi a gweithredu’n ddwys mewn meysydd blaenoriaeth.
  • Y gweithlu addysg - sefydlu fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg pum mlynedd fel rhan orfodol o hyfforddi fel athro yng Nghymru.

'Gweithredu ac arweiniad'

Yn ôl Efa Gruffudd Jones mae cyfnod nesaf y Senedd am fod yn allweddol o ran y Gymraeg,

“Mae fy uchelgais fel Comisiynydd yn mynd y tu hwnt i ddehongliad cul o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonof gan Fesur y Gymraeg," meddai. 

"Rwyf yn awyddus i arwain corff sy’n gwneud mwy ac yn cyfrannu’n fwy sylweddol at waith cynllunio ieithyddol ehangach. 

"O ganlyniad mae’r maniffesto hwn yn gofyn am weithredu ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru, beth bynnag fydd ei lliw, a chefnogaeth i hwyluso gwaith partneriaid allweddol eraill, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg.

“Mae’r blynyddoedd nesaf am fod yn dyngedfennol i’r Gymraeg wrth i Fil y Gymraeg ac Addysg ddod yn weithredol ac wrth i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg hwythau gael eu rhoi ar waith.

Ychwanegodd: “Rwy’n llawn ymwybodol o’r pwysau sydd ar ein sefydliadau cyhoeddus a dyna’r rheswm dros nodi pum blaenoriaeth penodol yn y maniffesto hwn. 

"Maent yn dilyn y llwybr a osodwyd yn ein cynllun strategol ac rwyf yn grediniol fod y rhain yn feysydd lle gellir gwneud y gwahaniaeth i’r defnydd o’r iaith.

“Byddwn yn awr yn awyddus i gynnal trafodaethau gyda’r pleidiau er mwyn cyflwyno ein maniffesto a’n rhesymeg dros nodi ein blaenoriaethau. 

"Y gobaith yw y bydd y pleidiau yn barod i fabwysiadu ein cynigion ac i rheiny gael eu mabwysiadu cyn yr etholiad flwyddyn nesaf.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.