Newyddion S4C

Heddlu wedi ymchwilio i farwolaeth babi mewn ysbyty

Ysbyty Athrofaol y Faenor

Mae’r heddlu wedi cynnal ymchwiliad ar ôl marwolaeth babi oedd wedi ei eni'n gynnar (premature) mewn ysbyty yng Nghwmbrân.

Roedd Heddlu Gwent wedi ymchwilio yn dilyn honiadau oedd yn gysylltiedig â “gwall difrifol” o ran meddyginiaeth ar ôl yr enedigaeth yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn 2022.

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau yn ymwneud a “dynladdiad trwy esgeulustod difrifol yn dilyn marwolaeth bachgen bach” yn yr ysbyty.

Fe gafodd y llu wybod am yr honiadau ym mis Gorffennaf 2022, ond yn ddiweddar y mae’r ymchwiliad wedi dod i ben, medden nhw.

Ni chafodd unrhyw un ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad.

Mae’r heddlu wedi ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron ac ni fydd unrhyw gyhuddiadau troseddol chwaith.

Roedd y llu wedi siarad â dwy fenyw fel rhan o’r ymchwiliad. Roedd y menywod wedi cynnig siarad â'r swyddogion ynglŷn â’r honiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent y bydd adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer y crwner.

“Mae ein meddyliau’n parhau gyda’r teulu,” ychwanegodd y llefarydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: “Roedd yna ymchwiliad i’r amgylchiadau ynghylch marwolaeth y babi fel rhan o broses aml-asiantaeth o’r enw Diogelu Gwent, a hynny dan arweiniad Heddlu Gwent.

“Roedd y bwrdd iechyd wedi cydweithio’n llawn trwy gydol yr ymchwiliad a doedd ‘na ddim cyhuddiadau troseddol.”

Ychwanegodd y bwrdd iechyd eu bod yn cydnabod colled drasig y teulu dan sylw a bod eu meddyliau’n parhau gyda nhw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.