Newyddion S4C

Jonny Clayton: 'Dwi'n chwarae dartiau i Dad'

Jonny Clayton

Mae Jonny Clayton yn dweud ei fod yn "chwarae dartiau i Dad" wrth siarad yn gyhoeddus am farwolaeth ei dad ddyddiau wedi iddo chwarae mewn rownd derfynol prif gystadleuaeth.

Diwrnod cyn i'r Cymro deithio i Blackpool i gystadlu yn y World Matchplay ym mis Gorffennaf 2023 roedd ei dad, John, yn Ysbyty Glangwili.

Nid oedd Clayton eisiau chwarae yn y gystadleuaeth, ond mynnodd ei dad ei fod yn chwarae a'i fod eisiau gwylio ei fab ar y teledu.

"Dydw i ddim yn gwybod sut oeddwn i gyda'r cryfder i chwarae yn y gystadleuaeth honno," meddai ar bodlediad Tops and Tales y dyfarnwr dartiau o Gymru Huw Ware.

"Roedd e ar ei ddyddiau olaf cyn y gystadleuaeth a'r peth olaf ar fy meddwl oedd dartiau, roeddwn i bron wedi tynnu allan o'r gystadleuaeth.

"Ond roedd fy nhad eisiau i fi chwarae, mae e wrth ei fodd gyda'r dartiau, yn caru gwylio fi ar y teledu ac roedd e eisiau i fi fynd er mwyn iddo gael gwylio fi ar y teledu."

'Yn eu dagrau'

Cyn teithio i Blackpool ar y dydd Sul er mwyn chwarae nos Lun, roedd Jonny Clayton wedi ymweld â'i dad yn yr ysbyty.

Penderfynodd ei wraig, Elen i aros er mwyn edrych ar ôl John, gyda'r plant yn mynd gyda'r chwaraewr dartiau i Blackpool.

Ond ar y ffordd yno cafodd ei dad pwl gwael.

"Roeddem wedi cyrraedd y Trallwng cyn i Elen ffonio fi yn dweud 'dydw i ddim yn gwybod sut i ddweud hyn, ond ti angen troi 'nôl.'

"Felly roeddwn i wedi troi 'nôl ac roedd Elen ar y ffôn yn dweud 'dyw e ddim yn dda o gwbl, efallai fydd e ddim yma pan wyt ti 'nôl.'

"Roedd pob math o bethau yn mynd trwy fy meddwl, roedd y plant yn eu dagrau a fi yn crio hefyd."

Pan ddychwelodd Jonny â'i blant i'r ysbyty daeth Elen ato i ddweud bod ei dad wedi gwella'n sydyn.

Gofynnodd ei dad iddo pam nad oedd wedi gadael eto, cyn mynnu eto ei fod yn mynd er mwyn chwarae.

Image
Jonny Clayton
Yn ystod ei yrfa mae Jonny Clayton wedi ennill 17 prif gystadleuaeth y PDC. (Llun: PDC)

'Dwi dal mewn dad'

Chwaraeodd Jonny Clayton, sydd yn rhif 5 ar restr detholion y byd ar y funud, yn y rownd gyntaf y diwrnod canlynol.

Enillodd yn erbyn Gabriel Clemens o'r Almaen a oedd yn fan cychwyn rhediad yr holl ffordd i'r rownd derfynol.

Cafodd y gystadleuaeth ei ddarlledu ar Sky Sports, ac mewn cyfweliadau ar ôl y gemau roedd Clayton yn dweud "dwi dal mewn dad" ar ddiwedd bron pob un ohonynt.

Yn anffodus, fe gollodd Clayton yn y rownd derfynol yn erbyn Nathan Aspinall, ond roedd yn falch o wneud rhywbeth i'w dad yn ystod ei ddyddiau olaf.

"Yr unig beth oedd ar fy meddwl oedd fy nhad," meddai.

"Roeddwn i'n dweud wrth fy hun 'dim ots pa mor bell wyt ti'n mynd yn y gystadleuaeth, bydd e'n ddyn balch.'

"Dwi'n gutted bod fi heb godi'r tlws, achos fyddai hynny wedi bod y peth gorau."

Bu farw tad Jonny wythnos wedi'r rownd derfynol.

Ers hynny mae Clayton wedi ennill tair cystadleuaeth yn y PDC, gan gynnwys Pencampwriaeth Dartiau'r Iseldiroedd fis diwethaf.

"Wrth feddwl am fy nhad mae'n neud fi'n drist, ac yn torri fy nghanol pob tro," meddai.

"Roedd yn ddyn balch a dwi'n chwarae dartiau iddo ef, pob amser dwi'n chwarae dartiau i fy nhad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.