'Gweddillion anifeiliaid' wedi eu gadael mewn pentref yng Ngwynedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi apelio am wybodaeth yn dilyn achosion o dipio anghyfreithlon sydd wedi digwydd yn Ffordd yr Orsaf ym Mhenygroes.
Yn ôl y cyngor mae gweddillion anifeiliaid wedi eu gadael ger mynedfa safle Wynnstay yn y pentref.
"Nid yw Cyngor Gwynedd yn goddef ymddygiad o’r fath a gallwn gymryd camau i gosbi'r rhai y canfyddir eu bod wedi cyflawni troseddau amgylcheddol" meddai llefarydd mewn datganiad.
Mae'r cyngor yn apelio am unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, neu os yw'r cyhoedd wedi gweld unrhyw weithgareddau amheus yn yr ardal i gysylltu gyda nhw.