Newyddion S4C

Cyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint

smocio

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint.

Mewn datganiad dydd Sadwrn, dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y bydd y rhaglen wedi'i hanelu at y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddioddef y clefyd.

Bydd gwaith yn dechrau "ar unwaith" i ddatblygu a chyflwyno'r rhaglen, meddai, ac fe fydd yn targedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint, ochr yn ochr â gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu integredig, ar gyfer pobl rhwng 55 a 74 oed sy'n wynebu risg uchel o ddioddef canser yr ysgyfaint.

Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, ond y math o ganser sy’n lladd y rhan fwyaf o bobl. 

Mae'r mwyafrif o achosion o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru yn cael eu canfod yn hwyr pan fydd y canser wedi lledaenu y tu hwnt i'r ysgyfaint a phan nad oes modd gwella yn aml. 

"Mae rhaglen sgrinio genedlaethol yn allweddol i ganfod canser yr ysgyfaint yn gynharach ac i wella canlyniadau a chyfraddau goroesi pobl", ychwanegodd Jeremy Miles.

Dechrau yn 2027

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno’n raddol i ddechrau, ac fe fydd y rhai sydd ym mhen uchaf yr ystod oedran gymwys yn cael eu gwahodd yn gyntaf. 
 
Mae disgwyl i'r bobl gyntaf gael eu sgrinio yn 2027.
 
Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sgrinio’r ysgyfaint genedlaethol yng Nghymru. 
 
"Mae tystiolaeth yn dangos y gall sgrinio ddarganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar, pan fo'n haws ei drin. Mae hyn yn golygu y bydd bywydau'n cael eu hachub.
 
“Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau canser yng Nghymru. Yn rhy aml caiff ei ddiagnosio'n hwyr oherwydd efallai na fydd yn achosi symptomau yn ei gamau cynnar. Mae sgrinio yn rhoi cyfle inni ei ddarganfod yn gynnar, cyn i symptomau ymddangos.
 
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o bob cwr o GIG Cymru i gyflwyno gwasanaeth a fydd yn achub bywydau.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.