Pump o blant wedi eu hanafu ar ôl i goeden gwympo mewn parc
Mae pump o blant wedi cael eu cludo i'r ysbyty, gan gynnwys dau ag anafiadau difrifol, ar ôl i goeden gwympo mewn parc yn Essex.
Galwyd Heddlu Essex i Barc Chalkwell, Southend-on-Sea, ychydig cyn 15:00 yn dilyn adroddiadau am “nifer o anafiadau”.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr: “Cafodd dau o blant eu cludo i Ysbyty Prifysgol Southend.
“Cafodd tri phlentyn arall eu cludo yn ddiweddarach i’r un ysbyty gyda mân anafiadau.”
Mae’r heddlu wedi annog y cyhoedd i osgoi’r ardal. Aeth y Gwasanaeth Tân i'r digwyddiad hefyd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Southend-on-Sea, Daniel Cowan: “Rwy’n ymwybodol o’r digwyddiad difrifol iawn hwn. Rydym yn gweithio gyda heddlu Essex, y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Gwasanaeth Tân, sydd yn dal yn y fan a’r lle.
“Rwy’n deall bod coeden wedi cwympo, bod nifer o bobl wedi’u hanafu ac rydym yn gofyn i’r cyhoedd osgoi’r ardal tra bod y gwasanaethau hynny’n gwneud eu gwaith, ac mae fy meddyliau gyda’r rhai sydd wedi eu heffeithio.”