Newyddion S4C

Dyn 32 oed o Ynys Môn yn euog o gam-drin dau fachgen yn rhywiol

llys ynadon caernarfon

Mae dyn o Ynys Môn wedi ei gael yn euog o gam-drin dau o fechgyn yn rhywiol.

Fe ddaeth rheithgor yn yr achos yn erbyn Jonathan Evans o Falltraeth i'r casgliad fod y dyn 32 oed yn euog o naw cyhudiad yn ymwneud â cham-drin dau o fechgyn ifanc.

Fe ddechreuodd y rheithgor drafod eu dyfarniad brynhawn Gwener, ond wedi ychydig dros awr o drafod yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, fe ddaeth y 12 aelod i benderfyniad fod Evans yn euog o bob cyhuddiad yn ei erbyn. 

Yn ystod yr achos, fe glywodd y rheithgor fod Evans wedi bod mewn sefyllfaoedd lle roedd ganddo gyfrifoldebau dros gadw plant yn ddiogel.

Roedd wedi bod yn swyddog cadetiaid awyr ac yn dechnegydd mewn labordy ysgol.

Roedd Evans wedi gwadu'r naw cyhuddiad yn ei erbyn.

Wrth gloi’r achos ddydd Gwener cyn i’r rheithgor ddechrau ystyried, dywedodd yr erlynydd Josh Gorst bod Evans yn honni bod y ddau ddioddefwr, sydd bellach yn oedolion, yn dweud celwydd.

"Pam fydden nhw?" gofynnodd. "Beth fydden nhw yn ei ennill wrth wneud hynny? 'Does yna ddim tystiolaeth eu bod nhw’n nabod ei gilydd."

Roedd tyst wedi gweld Evans yn cyffwrdd â chadetiaid er gwaethaf rheolau clir, a chafodd ei ddisgrifio fel person "fflyrtlyd".

Roedd hi wedi’i adrodd dro ar ôl tro ac ni wnaed "dim byd" i amddiffyn y bechgyn rhagddo, meddai’r erlynydd.

Roedd negeseuon "damniol" hefyd. "Mae’r negeseuon hyn yn dangos yn glir ei fod yn wir wedi’i ddenu’n rhywiol at fachgen yn yr ysgol tra’n aelod o staff," ychwanegodd y bargyfreithiwr.

Dywedodd un tyst yn ystod yr achos fod Evans wedi defnyddio'r toiled at ddibenion pleser rhywiol, pan oedd yn swyddog yn sgwadron yr Awyrlu. 

Roedd cydweithiwr i Evans hefyd wedi codi pryderon amdano. 

"Roedd hi'n teimlo nad oedd neb yn gwrando arni," meddai'r Barnwr Jones wrth y rheithgor wrth grynhoi'r dystiolaeth.

Fe fydd Evans yn dychwelyd i'r llys ar gyfer ei ddedfrydu ar ddydd Gwener 25 Gorffennaf, ac fe orchmynodd y barnwr fod adroddiadau cyn-dedfrydu yn cael eu paratoi.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.