
'Anghenion dynol sylfaenol' taid a fu farw o Covid mewn cartref gofal wedi eu 'hanghofio'
'Anghenion dynol sylfaenol' taid a fu farw o Covid mewn cartref gofal wedi eu 'hanghofio'
Mae teulu taid o Ddyffryn Conwy fu farw o Covid-19 tra’n byw mewn cartref gofal, yn dweud fod "anghenion dynol sylfaenol” preswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu “hanghofio”.
Dydd Llun mae'r ymchwiliad Covid wedi ailddechrau dan gadeiryddiaeth y Farwnes Hallett, a'r rhan yma'n edrych ar yr effaith ar gartrefi gofal.
Bu farw bron i bedwar deg chwech o filoedd o bobol yn y cartrefi yng Nghymru a Lloegr dros gyfnod o bron i ddwy flynedd.
Yn 2019 roedd rhaid i Tecwyn Williams o Garmel ger Llanrwst fynd i gartref gofal gan fod ganddo ddementia ag anghenion dwys.
Fel un oedd wedi arfer ffarmio ar hyd ei oes, yn ŵr, tad a thaid balch ac yn gerddor “talentog” roedd gweld ei thad 90 oed yn gorfod gadael y fferm i gael gofal yn “anodd iawn” meddai Ann O’Connor, ei ferch.
Ar 23 Mawrth 2020, dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson, wrth bobl i "aros gartref” ond roedd nifer o gartrefi gofal wedi cloi eu drysau i ymwelwyr cyn hyn.
Cafodd teulu Tecwyn Williams ddiwrnod o rybudd cyn i’r cartref fynd i gyfnod clo. Yr ymweliad hwnnw oedd y tro olaf iddyn nhw weld eu tad wyneb yn wyneb.
Mae Ann, sy'n byw yn Neganwy yn cofio cyfnod yr haf y flwyddyn honno pan gafodd ymweliadau "drwy’r ffenest" eu caniatáu.
“Doedd y ffenast ond yn agor ychydig, ac mi roedd y ffenast yn yr ystafell fyw lle oedd yr holl breswylwyr eraill," meddai wrth Newyddion S4C.
“Weithiau, mi oedd dad fel bod o’n dallt bod ni yna. Ond, mi roedd o yn gallu mynd yn aflonydd a methu dallt pam nad oedden ni'n mynd i mewn a be oeddan ni’n neud tu allan."

Y Nadolig 'gwaethaf'
Wrth i’r wythnosau droi’n fisoedd o gyfnodau clo roedd y teulu dan straen.
Cyn y pandemig, byddai un ohonyn nhw'n ymweld â Tecwyn bob dydd.
“Mi oeddan ni ar binna jest isio mynd i weld o” meddai Ann.
Mae hi'n disgrifio Nadolig 2020 fel yr un “gwaetha gafo ni.”
Gyda chyfnod clo cenedlaethol arall mewn lle, mae hi’n cofio’r tristwch o orfod "mynd a'i anrhegion o a jest gadael nhw wrth y drws”.
Wedi llwyddo i gadw’r haint o’r cartref am flwyddyn, mi gafodd rheolwr y cartref gofal a’i wraig Covid ym mis Chwefror 2021.
Roedd rhaid iddyn nhw ynysu, ac mi ddaeth gweithwyr asiantaeth i weithio yn y cartref.

Cafodd y teulu wybod fod rhai gweithwyr a phreswylwyr wedi dal y feirws ond fod Tecwyn Williams yn iach. Gofynnwyd iddyn nhw beidio ffonio am y tro, gydag addewid y byddai’r staff yn cysylltu pe bai’r sefyllfa yn newid.
Wedi pedwar diwrnod yn disgwyl am wybodaeth gan y cartref, mi benderfynodd Ann gysylltu.
“O’n i jest mor desperate i glywed rhyw fath o newyddion," meddai.
Mi newidiodd yr alwad ffôn bopeth. Cafodd wybod bod ei thad wedi cael Covid, ei fod yn sâl, ac yn cael gofal diwedd oes.
“O'n i’m yn coelio’r peth,” meddai Ann.
“Mi oedd y rheolwr yn 'stafell Dad ar y pryd ac o’n i’n clywad dad yn paffio am ei wynt yn y cefndir.
“O’n i jest isio bod hefo dad ar ei oriau ola', dyna’r cwbl o’n i isio.”
Mae Ann yn dweud iddi “grefu” i gael mynd ato, ond fod y rheolwr wedi gwrthod gan ddweud ei fod o’n “tybio y basa dad yn iawn am y noson.”
O fewn ychydig oriau, toc wedi hanner nos, bu farw Tecwyn Williams.
'Dim llais'
Mae Ann yn flin na chafodd gyfle i gadw cwmni i’w thad yn ystod ei oriau olaf.
“Dyna pryd oedden ni angen ac isio bod hefo fo, a ddim wedi cael gwneud hynny," meddai.
"Hynna sy'n anodd i fyw hefo fo.”
Mae hi'n cydnabod fod y cyfyngiadau clo yn anorfod ar ddechrau’r pandemig gan fod y risg o ledaenu Covid-19 mor uchel.
Ond, mae hi’n cwestiynu pam fod y rheolau ymweld â chartrefi gofal, bron i flwyddyn wedyn, wedi parhau mor dynn.
“Mi oedd 'na gyfyngiadau yn cael eu llacio, mi oedd pobol yn cael mynd yn ôl i’r swyddfa i weithio, mynd i deithio," meddai.
“Ond, o ran ein profiad ni yn bersonol, doedden ni dal ddim yn cael mynd i mewn i weld dad.”
Mae Ann yn credu fod "anghenion dynol sylfaenol” preswylwyr cartrefi gofal wedi cael ei “anghofio".
“Doedd ganddyn nhw ddim llais"
"Doedden ni ddim yn teimlo fod geno ni lais."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "parhau i gydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad er mwyn sicrhau bod yna graffu llawn ar yr holl benderfyniadau a'r camau gafodd eu cymryd yng Nghymru".
Ar y pryd, roedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi mai penderfyniad cartrefi gofal unigol oedd gosod rheolau ar ymweliadau, gan gynnwys ymweliadau diwedd oes.
Tydi Ann ddim yn credu mai gosod gorchymyn cyffredinol i atal ymwelwyr ym mhob cartref gofal oedd yr ymateb cywir.
“Pan oedd pobol wedi cael y brechiadau, y test ar gael, dwi’n meddwl o bosib mi roedd yna gyfle wrach i lacio,” meddai.
“Oedd pobol yn cael dechra' mynd allan i fyta, mynd i siopa, a dim byd o fewn y cartrefi. Mi oedd hynny yn anodd.
“Oedd o jest yn teimlo yn annheg, oedd o’n teimlo nad oedd neb yn gwrando.
"Neb yn cymryd i ystyriaeth yr effaith pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.”
Mae Ann yn dweud fod y profiad o beidio gweld ei thad wyneb yn wyneb am dros 11 mis yn dal i bigo.
"Er fod yna bedair blynedd wedi mynd, dio ddim yn gadael rhywun,” meddai.
Cafodd y teulu wybod fod un o weithwyr parhaol y cartref wedi bod yng nghwmni Tecwyn pan fuodd o farw. Mae Ann yn cofio’r sgwrs ffôn gafodd hi gyda’r aelod o staff.
“Nath hi ddeud ei bod hi’n gafael llaw dad, mi nath hi grio hefo fi," meddai.
“Mi dduodd hi fod ganddi feddwl y byd o Dad, a’i bod hi wedi dod i’w nabod o’n dda.
“Mi oedd hynny yn gysur."