
Carcharu gyrrwr peryglus a laddodd fam i ddau
Mae gyrrwr peryglus a laddodd fam i ddau wedi ei ddedfrydu i garchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun.
Fe wnaeth Alex Rickwood, 32, o Wern Isaf, Dowlais ladd Catherine Bradford ar ôl colli rheolaeth ar ei gar yn y dref ar 19 Medi, 2022.
Newidiodd ei ble i euog cyn wynebu achos llys ym mis Mai 2025, mwy na dwy flynedd a hanner ar ôl y digwyddiad.
Pleidiodd yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, achosi marwolaeth drwy yrru cerbyd heb yswiriant, a defnyddio plât rhif masnachol mewn modd twyllodrus.
Roedd wedi gyrru car MG ZR mewn ffordd “gwallgof o gyflym” yn ôl un llygad-dyst.
Roedd ei ffrind - perchennog y car - yn deithiwr yn y sedd flaen ar y pryd.
Collodd Rickwood reolaeth ar y car wrth dro ar Stryd Fawr Dowlais, a tharo Catherine Bradford, a oedd ar y palmant ar y pryd.
Cafodd y fam 52 oed i ddau o blant ei tharo gyda chymaint o rym nes i lygad-dyst ddisgrifio sut y gwelsant yr hyn yr oeddent yn ei feddwl oedd malurion o'r car yn hedfan drwy'r awyr, cyn sylweddoli mai person ydoedd.
Syrthiodd polyn lamp a gafodd ei daro gan y car i'r llawr.

Fe wnaeth aelod o'r cyhoedd stopio ei char a rhedeg at le’r oedd Catherine Bradford yn gorwedd ar laswellt ar ymyl y ffordd.
Cyrhaeddodd parafeddygon yn ddiweddarach, gan gynnwys aelodau criw'r Ambiwlans Awyr, ond roedd eu hymdrechion yn ofer.
Roedd Catherine Bradford wedi marw yn y fan a'r lle. Y gred oedd bod grym y gwrthdrawiad wedi'i lladd ar unwaith.
Fe wnaeth Alex Rickwood ddioddef toriadau a chleisiau bach tra bod ei ffrind - a ddywedodd wrth swyddogion yr heddlu fod y car yn cael ei yrru'n rhy gyflym - wedi torri ei fraich.
Fe gafodd Rickwood, mecanig a gyrrwr cerbydau nwyddau trwm, ei garcharu am bum mlynedd a phum mis, a'i wahardd rhag gyrru am fwy na saith mlynedd.
'Arf angheuol'
Dywedodd yr Ymchwilydd Gwrthdrawiadau Difrifol, y Ditectif Gwnstabl Matthew Jones bod teulu Catherine Bradford “wedi torri eu calonnau’n llwyr”.
“Gobeithio y bydd y dyfarniad heddiw rywsut yn eu galluogi i symud ymlaen o’r drasiedi hon a gallant ddechrau ailadeiladu eu bywydau,” meddai.
“Fel mecanig a gyrrwr proffesiynol, dylai Alex Rickwood fod wedi gwybod yn well.
“Roedd yn anghyfrifol ac yn ddi-hid a newidiodd ei weithredoedd y diwrnod hwnnw fywydau llawer o bobl, gan gynnwys ei fywyd ei hun.
“Dylai dreulio'r amser sylweddol y bydd yn ei dreulio yn y carchar i fyfyrio ar y dewisiadau a wnaeth a'r dinistr a gafodd ei achosi ganddo.
“Mae car yn y dwylo anghywir yn arf angheuol - yn anffodus, nid yw hyn yn aml yn cael ei werthfawrogi ddigon hyd nes bod trychineb yn digwydd.”