Newyddion S4C

Rhif 10: Y Canghellor Rachel Reeves 'ddim yn mynd i unman'

Rhif 10: Y Canghellor Rachel Reeves 'ddim yn mynd i unman'

Mae Downing Street wedi dweud nad yw Rachel Reeves yn "mynd i unman" ac y bydd yn parhau fel Canghellor. 

Roedd Ms Reeves i'w gweld yn emosiynol yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, gyda phwysau cynyddol arni ar ôl tro pedol sylweddol yr wythnos diwethaf ar newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau.

Ond dywedodd cysylltiadau agos ati ei bod yn delio â "mater personol" ac fe ddywedodd Rhif 10 fod ganddi "gefnogaeth lawn" Syr Keir Starmer.

Yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog, fe wynebodd Syr Keir gwestiynau am y ffordd y gwnaeth ddelio â phecyn diwygio lles, gyda sawl elfen allweddol bellach wedi eu hepgor. 

Fe ofynodd arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch i'r Prif Weinidog os y byddai Rachel Reeves yn cadw ei swydd fel Canghellor tan yr etholiad nesaf. 

Ni atebodd Syr Keir y cwestiwn, ond fe ychwanegodd na fyddai Ms Badenoch "yn sicr yn ei swydd am y cyfnod hynny."

Wrth gael ei holi pam na wnaeth Syr Keir gadarnhau os oedd ganddo ffydd o hyd yn Ms Reeves, fe ddywedodd ysgrifennydd y wasg y Prif Weinidog: "Mae wedi gwneud hynny dro ar ôl tro. Nid yw'r Canghellor yn mynd i unman. Mae ganddi gefnogaeth lawn y Prif Weinidog."

Nos Fercher, fe bleidleisiodd ASau o 335 i 260 o blaid cynlluniau dadleuol y wladwriaeth les yn San Steffan, ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig orfod cyflwyno newidiadau pellach munud olaf. 

Llwyddodd y Llywodraeth i ennill gyda mwyafrif o 75 o bleidleisiau, sy'n golygu y bydd y bil diwygio lles yn symud i'r cam nesaf yn y Senedd.  

Ddydd Mawrth, rai oriau cyn y bleidlais, cynigiodd y Prif Weinidog ddiwygiadau pellach i'r aelodau Llafur hynny a oedd yn dal yn anfodlon â'r cynlluniau wedi'r tro pedol yr wythnos diwethaf.   

Bydd pobl sy'n derbyn y taliad annibyniaeth personol (PIP) ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi newidiadau ar y diwygiadau lles dadleuol nos Iau diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.