Newyddion S4C

Euro 2025: Menywod Cymru 'gyda gêm a llwyfan eu hunain'

Euro 2025: Menywod Cymru 'gyda gêm a llwyfan eu hunain'

Wrth i dîm menywod Cymru baratoi i chwarae yn yr Euros am y tro cyntaf, mae'r cyflwynydd Sioned Dafydd yn dweud bod gan y menywod lwyfan pêl-droed rhyngwladol eu hunain, ac nad oes "modd cymharu gyda gêm y dynion."

Yn wahanol i'r dynion mae chwaraewyr benywaidd yn fwy tebygol o ddioddef sylwadau milain neu fygythiol ar-lein.

Fe wnaeth adroddiad gan FIFA ar ôl Cwpan y Byd Menywod 2023 nodi bod un allan o bob pum chwaraewr wedi eu targedu "gyda rhyw fath o sylwadau gwahaniaethol, milain neu fygythiol."

Hefyd roedd chwaraewyr benywaidd 29% yn fwy tebygol o dderbyn camdriniaeth ar-lein o gymharu â chwaraewyr Cwpan y Byd y dynion yn Qatar 2022.

Sylwadau homoffobig, rhywiol neu rywiaethol oedd bron i hanner y rhai gafodd eu darganfod, meddai'r adroddiad.

Dywedodd Sioned Dafydd wrth Newyddion S4C na fydd modd osgoi sylwadau tebyg yn ystod Euro 2025.

"Ma’ fe mynd i ddigwydd yn anffodus, sai’n credu bod modd osgoi’r feirniadaeth, sai’n credu bod modd osgoi’r sylwade," meddai.

"Ond ma’ rhaid ni gofio am 50 mlynedd o’dd menywod ddim yn hyd yn oed cael ‘whare pêl-droed.

"Os o’n nhw’n gofyn i ymuno â chlwb, os o’n nhw’n gofyn i ‘whare gemau yr ateb o’dd 'na'".

Image
Sioned Dafydd

'Cadw persbectif'

Mae gan gorff llywodraethu FIFA Wasanaeth Diogelu Cyfryngau Cymdeithasol.

Mae'r gwasanaeth yn ceisio diogelu chwaraewyr trwy chwynnu cynnwys llawn malais ar-lein a'u cuddio rhag i bobl eraill eu gweld.

Yn ystod Cwpan y Byd 2023 roedd bron i 700 o chwaraewyr wedi cael eu hamddiffyn rhag sylwadau o'r math yma.

Cafodd tua 117,000 o sylwadau eu cuddio yn ystod y gystadleuaeth.

Barn Sioned Dafydd yw bod sylwadau o'r fath yn dod o ganlyniad i gymharu camp y dynion gyda'r menywod, sydd yn gwbl wahanol yn ei barn hi.

"Fi’n credu ma’ lot o’r sylwade yna yn dod o pan ma’ pobl yn cymharu gêm y menywod gyda gêm y dynion.

"Sai’n credu bod ni’n gallu cymharu nhw achos i fi, ma’ nhw’n gemau hollol wahanol.

"Ma’r steil o bêl-droed yn hollol wahanol, ma’ cyrff pawb yn wahanol."

Ychwanegodd: "Fi’n credu ‘na ble ma’r sylwade negyddol yn dod, achos dyw Angharad James ddim yn mynd i ‘whare fel Aaron Ramsey achos ma’ nhw’n gwbl wahanol.

"Felly fi’n credu jyst cadw persbectif ar yr elfen yna sy’n bwysig iawn.

"Sai’n credu bod angen i’r menywod anelu i fod fel y dynion o gwbl.

"Ma’r menywod gyda llwyfan eu hunain, gyda gêm eu hunain, a jyst yn gobeithio bo’ ni mynd i weld y gorau o hwnna mas yn y Swistir."

Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch hanesyddol yn Euro 2025 yn erbyn yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn.

Yna fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu Ffrainc cyn eu gêm grŵp olaf yn erbyn pencampwyr presennol yr Euros, Lloegr.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.