Chwaraewr Lerpwl Diogo Jota wedi marw mewn gwrthdrawiad car
Chwaraewr Lerpwl Diogo Jota wedi marw mewn gwrthdrawiad car
Mae chwaraewr Lerpwl Diogo Jota wedi marw mewn gwrthdrawiad car.
Roedd Jota yn teithio mewn car gyda'i frawd 26 oed André Silva, sydd hefyd yn bêl-droediwr.
Fe wnaeth y Guardia Civil gadarnhau fore Iau bod y ddau frawd wedi marw yn Sbaen.
Roedd y car, Lamborghini, wedi gwyro oddi ar ffordd yr A-52 yn ardal Zamora ar ôl i un o'r olwynion fyrstio tra'n gyrru heibio car arall.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 00:30 amser lleol.
Roedd Jota wedi priodi ei gariad Rute Cadroso ym Mhorto, Portiwgal, bythefnos yn ôl. Roedd ganddyn nhw dri o blant.
Mewn cyfweliad a gafodd ei ryddhau ddydd Mercher dywedodd Jota mai ef oedd "y dyn mwyaf lwcus yn y byd" yn dilyn y briodas.
Dywedodd Clwb Pêl-droed Lerpwl fore Iau eu bod wedi eu "distrywio" gan farwolaeth "drasig" Diogo Jota.
"Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd ac yn gofyn am breifatrwydd er mwyn i deulu, ffrindiau a chyd-chwaraewyr a staff clybiau Diogo ac Andre gael eu parchu wrth iddyn nhw geisio dod i delerau gyda'r golled annirnadwy hon.
"Byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth lawn iddynt."
Inline Tweet: https://twitter.com/necowilliams01/status/1940737544490307699
Inline Tweet: https://twitter.com/FAWales/status/1940700466205315132
Mewn datganiad ar X, dywedodd tîm cenedlaethol Portiwgal eu bod nhw wedi colli "dau bencampwr".
"Mae Ffederasiwn Pêl-droed Portiwgal â phawb sy'n ymwneud â phêl-droed yn y wlad wedi eu dinistrio gan farwolaethau Diogo Jota a'i frawd André Silva.
"Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau diogo ac André Silva, yn ogystal â Chlwb Pêl-droed Lerpwl a FC Penafiel, y clybiau roedd y ddau yn chwarae iddynt.
"Rydym wedi colli dau bencampwr. Mae marwolaethau Diogo a André Silva yn cynrychioli colledion nad oes modd trwsio a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i anrhydeddu y gwaddol y maen nhw weedi ei adael ar eu holau."
Dywedodd cyd-chwaraewr Jota gyda Phortiwgal, Cristiano Ronaldo, nad yw'r newyddion "yn gwneud synnwyr.
"Roeddem ni newydd fod gyda'n gilydd gyda'r tîm cenedlaethol, roeddet ti newydd briodi," meddai.
Fe anfonodd Ronaldo ei gydymdeimladau at deulu Jota, ei wraig a'u plant, gan ychwanegu: "Dwi'n gwybod y byddi di gyda nhw bob amser."
Roedd Jota yn rhan o garfan Lerpwl wnaeth ennill Uwch Gynghrair Lloegr tymor diwethaf.
Ers ymuno â'r clwb o Wolverhampton Wanderers yn 2020 roedd wedi sgorio 65 o goliau mewn 182 o gemau.