Nain sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei hŵyr yn gwadu ymosod arno
Nain sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei hŵyr yn gwadu ymosod arno
Mae nain i fachgen dwy oed sydd wedi ei chyhuddo o'i lofruddio wedi gwadu iddi ymosod arno cyn ei farwolaeth.
Honnir bod Kerry Ives, 46 oed, a'i gŵr Michael Ives, 47 oed, wedi bod yn ystafell fyw eu cartref yn Sir y Fflint, gyda'i hŵyr Ethan Ives-Griffiths ar 14 Awst, 2021, pan ddioddefodd anaf "trychinebus" i'w ben, a arweiniodd at ei farwolaeth ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher, gofynnwyd iddi gan Owen Edwards KC ar ran yr amddiffyniad: "A wnaethoch chi ymosod ar Ethan ar Awst 14?"
"Na", meddai wrth y llys.
Gwadodd Mrs Ives hefyd weld, helpu gyda neu annog ymosodiad ar y bachgen bach ar y dyddiad hwnnw.
Disgrifiodd Ethan fel “plentyn bach bywiog” a dywedodd ei fod wedi dod i aros yn eu cartref yn Garden City o tua 24 Mehefin am ychydig wythnosau, cyn mynd yn ôl at ei fam – ei merch, Shannon Ives.
Yna fe ddaeth Shannon ac Ethan i aros yn y tŷ o 16 Gorffennaf hyd at ei farwolaeth.
Pan ofynnwyd iddi sut oedd ei merch yn ymddwyn tuag at Ethan, dywedodd: “Roedd hi’n arfer ei daro, yn ei ben.”
Ar ôl i Mr Edwards ofyn o dan ba amgylchiadau y byddai hynny’n digwydd, dywedodd Mrs Ives: “Mae’n debyg ei fod wedi’i gwylltio hi, dim ond trwy chwerthin am ei phen pe bai hi’n ei geryddu.”
'Marc coch'
Dywedodd iddi sylwi ar farc coch ar wyneb Ethan ar 14 Awst ar ôl iddo fod yn yr ystafell wely gyda’i fam.
Ychwanegodd nad oedd hi wedi gweld Shannon yn taro Ethan y diwrnod hwnnw, ond cafodd ei hatgoffa’n ddiweddarach o’i datganiad amddiffyn lle dywedodd ei bod wedi gweld Shannon yn taro ei mab ar ei ben wrth iddynt gerdded i’r ystafell fyw.
Dywedodd wrth y llys ei bod hi yn yr ystafell fyw gyda'i gŵr y noson honno, tra roedd Shannon i fyny'r grisiau, pan drodd a gweld Michael Ives yn dal Ethan wedi iddo lewygu.
Dywedodd Mrs Ives: “Cododd Michael ef yn ôl ac yna fe'i gwnaeth eto felly gosododd Michael ef ar y carped.”
Pan ofynnwyd iddi sut olwg oedd arno, dywedodd: “Roedd yn ofnadwy.”
Dywedodd ei bod hi wedi gweiddi ar Shannon, a ddaeth i lawr y grisiau ac yn ddiweddarach ffoniodd ei merch arall, Nicole, dros Facetime, clywodd y llys.
Ychwanegodd: “Roedd Nicole wedi mynd trwy rywbeth tebyg gyda'i mab. Roeddwn i angen cyngor ar beth i'w wneud.”
Ambiwlans
Yna fe ffoniodd am ambiwlans, ond clywodd y llys fod y cyfnod rhwng y gweiddodd Kerry Ives ar ei merch i ddod i lawr y grisiau a'r amser y gwnaeth hi ffonio'r gwasanaethau brys yn 18 munud.
Dywedodd wrth y llys: “Roeddwn i'n panicio. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.”
Derbyniodd Kerry Ives, sy'n wreiddiol o Wolverhampton, fod y ffordd y cariodd ei gŵr Ethan, wrth ei fraich, mewn lluniau teledu cylch cyfyng o Awst 4 2021, yn "greulon".
Mae Michael a Kerry Ives, o Ffordd Kingsley, Garden City, yn gwadu llofruddiaeth, cyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i berson dan 16 oed.
Mae Shannon Ives, o Nant Garmon, yr Wyddgrug, yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i berson dan 16 oed.
Mae'r achos yn parhau.