Carchar wedi'i ohirio i ddyn o'r Rhondda am gam-drin ceffylau yn rhywiol
Mae dyn o'r Rhondda wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio ar ôl cam-drin ceffylau yn rhywiol.
Ym mis Ebrill fe wnaeth Corey Coleman, 26 oed o Lanharan, bledio'n euog i bedwar cyhuddiad o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid yn Llys Ynadon Merthyr Tudful.
Roedd y troseddau yn cynnwys achosi dioddefaint diangen i ddau farch o'r enw Benny a Bear drwy eu cam-drin yn rhywiol, corfforol ac emosiynol.
Fe ddaeth y gam-driniaeth i'r amlwg ar ôl i Coleman gael ei ddal ar gamera cylch cyfyng yn ymosod ar y ddau farch a chaseg o'r enw Narla ar dri achlysur.
Fe wnaeth gyfaddef hefyd i fethu â diwallu anghenion y ddau farch a chaseg i'w hamddiffyn rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau.
Ddydd Mercher, fe gafodd Coleman ei ddedfrydu i wyth wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful.
Fe gafodd hefyd ei wahardd rhag bod yn berchen ar geffylau, eu cadw neu eu cludo am bum mlynedd, a gorchymyn i dalu cyfanswm costau o £474.
Fe wnaeth y troseddau ddigwydd rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf y llynedd.
'Achos brawychus'
Fe glywodd y llys fod pryderon wedi codi ar ôl i Coleman gael ei anafu gan un o'r meirch ar 27 Mehefin 2024.
Yn dilyn hynny roedd yn rhaid edrych ar gamera cylch cyfyng i ddarganfod beth oedd wedi achosi iddo dorri ei gefn.
Fe glywodd y llys fod lluniau wedi dangos Coleman yn dal i gam-drin ceffylau, hyd yn oed gyda'i gefn wedi torri.
Fe wnaeth y lluniau hefyd ddangos fod plant wedi bod yn y cyffiniau tra ei fod yn cyflawni un o'r ymosodiadau.
Ar 31 Gorffennaf y llynedd, fe aeth yr heddlu, yr RSPCA a milfeddyg i'r iard yn Nhonyrefail ac adnabod y tri cheffyl o'r lluniau.
Yn dilyn archwiliad gan filfeddyg daeth yr awdurdodau i'r casgliad nad oedd gan y ceffylau unrhyw anafiadau corfforol ganlyniad i'r gamdriniaeth.
Fe gafodd adroddiad gan filfeddyg arbenigol ei gyflwyno i'r llys yn dilyn adolygiad o'r lluniau teledu cylch cyfyng.
Dywedodd y milfeddyg bod y lluniau o 15 Gorffennaf yn "dangos yn glir beth mae Mr Coleman yn ei wneud i'r march".
Roedd adroddiad y milfeddyg yn nodi: "Yn y lluniau hyn mae'n amlwg bod Mr Coleman yn defnyddio caseg sy'n ymddangos yn ei chyfnod wedi'i lleoli y tu allan i stabl y march i bryfocio'r march cyn iddo fynd i mewn i stabl y march a'i gyffroi mewn modd rhywiol."
Ychwanegodd y milfeddyg yn yr adroddiad bod ymddygiadau tebyg wedi cael eu dangos mewn lluniau ar ddau achlysur arall.
Ond er bod modd gweld Coleman gyda'r gaseg, doedd dim modd ei weld gyda'r march gan ei fod y tu allan i'w stabl.
Daeth y milfeddyg i’r casgliad: "Fy marn arbenigol i yw bod y teledu cylch cyfyng yn dangos Coleman yn cam-drin y ddau farch yn rhywiol.
"Ac wrth wneud hynny, roedd wedi achosi i’r ddau ddioddef yn ddiangen fel sy'n cael ei ddangos gan eu hymddygiad wrth iddyn nhw symud i ffwrdd oddi wrtho a throi o’i gwmpas."
Ychwanegodd "fod y cam-drin hwn wedi’i gynnal dros gyfnod hir o amser wrth i’r ceffylau gael eu cyflyru i’r cam-drin hwn".
Dywedodd Dirprwy Brif Arolygydd yr RSPCA, Gemma Cooper: "Yn dilyn archwiliad gan filfeddyg, diolch byth, daeth i'r casgliad bod y ceffylau’n iawn er gwaethaf gorfod dioddef y cam-drin a’r dioddefaint hwn.
"Hoffem ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r hyn sydd wedi bod yn achos brawychus."