
'Ofnadwy o rwystredig': Trafferthion i gefnogwyr Cymru wrth gyrraedd Y Swistir
'Ofnadwy o rwystredig': Trafferthion i gefnogwyr Cymru wrth gyrraedd Y Swistir
Mae sawl cefnogwr Cymru wedi profi trafferthion wrth geisio cyrraedd Y Swistir ar drothwy gêm gyntaf Cymru yn Euro 2025.
Fe fydd Cymru yn herio'r Iseldiroedd yn Lucerne brynhawn Sadwrn.
Ond mae sawl cefnogwr wedi profi trafferthion yn sgil gweithredu diwydiannol gweithwyr rheoli traffig awyr yn Ffrainc.
Roedd Lois Jones, 18, o Gaernarfon a'i thad i fod i ddal awyren i Zurich o Fanceinion ddydd Iau am 18:00.
Ond er eu bod nhw wedi mynd ar yr awyren ac eistedd am ddwy awr arni, fe gafodd yr hediad ei ganslo.
"Oedd 'na lot o Gymry a lot o bobl ar yr awyren oedd yn gobeithio mynd i Zurich i weld yr Euros ond yn anffodus, mae'n debygol oherwydd fod yr awyren wedi cael ei chanslo, bod llawer ddim yn gallu cario mlaen efo'r trefniadau," meddai wrth Newyddion S4C.
Fe benderfynodd Lois a'i thad i ddal trên i Lundain a dal yr Eurostar i Frwsel yng Ngwlad Belg cyn dal trenau drwy'r Almaen ac maen nhw bellach ar eu ffordd i Basel yn Y Swistir.
Roedd y cyfnod yn un rhwystredig iawn yn ôl Lois.
"Oedd o'n ofnadwy o rhwystredig oherwydd oeddan ni'n dal trên wedyn o Manchester lawr i Llundain ac yn cyrraedd Llundain am hanner nos, a doedd yr Eurostar wedyn ddim yn cychwyn tan 06:00 felly oeddan ni heb westy na nunlle i aros a gorfod isda o gwmpas," meddai.
"Ond ma'n debyg bod 'na fwy o bobl na ni yn neud yr un peth, ond oedd o'n gyfnod rhwystredig."
Er y trafferthion, mae Lois yn ddiolchgar iawn ei bod hi a'i thad wedi gallu cyrraedd Y Swistir mewn amser cyn y gêm fawr ddydd Sadwrn.
"'Dan ni'n teimlo yn ofnadwy o lwcus bo' ni 'di gallu cario mlaen efo'r trefniadau er doedd o ddim yn y ffordd ddelfrydol ond dwi'n teimlo yn ofnadwy o lwcus bo' ni dal yn gallu cyrraedd Y Swistir."
Fe fydd Lois a'i thad yn aros yn Y Swistir tan ddydd Llun cyn y byddan nhw'n dal awyren o Zurich yn ôl i Fanceinion.
"Dwi'n gobeithio yn fawr iawn fydd y gêm werth o, dwi'n edrych ymlaen i weld y genethod a fydd o'n brofiad anhygoel be' bynnag sy'n digwydd i allu gweld ni yn chwara yn yr Euros cyntaf felly dwi'n meddwl bod yr holl drafferth werth o yn y diwedd," ychwanegodd.

Fe gafodd cynlluniau Seren Haf Llewelyn i gyrraedd Y Swistir hefyd eu heffeithio.
"So ‘naethon ni gael gwybod am hanner nos neithiwr bod ein flight ni oedd i fod i hedfan allan o Gatwick bore ‘ma wedi cael ei ganslo," meddai.
"Siom ofnadwy ar y pryd a dim llawer o gymorth, dim hediadau arall ar gael. Natho ni lwyddo yn diwedd i gael un oedd yn hedfan o Heathrow mewn i’r Almaen a wedyn ymlaen i Zurich."
Erbyn hyn, mae Seren bellach wedi cyrraedd, ac yn edrych ymlaen at y gêm fawr.
"Diwrnod hir iawn o deithio ond ‘dan ni wedi cyrraedd erbyn hyn, ac mae’r naws yn arbennig yma yn Lucerne," meddai.
"Edrych ymlaen yn ofnadwy am y gêm fory."