Dyn 37 oed o'r Rhyl wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio
Fe fydd dyn 37 oed o’r Rhyl yn ymddangos yn y llys fore Sadwrn wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio a chlwyfo.
Cafodd dwy ddynes eu cludo i'r ysbyty fore Iau ar ôl dioddef anafiadau mewn eiddo yng Nghilgant Meredith ychydig wedi 09:30.
Cafodd un ohonyn nhw ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr, tra bod y llall wedi'i chludo mewn ambiwlans i gael triniaeth feddygol bellach.
Mae Matthew Macmillan, o Meredith Cresecent, yn wynebu dau gyhuddiad wedi'r digywddiad.
Mae yn parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud y bydd swyddogion yn parhau yn yr ardal er mwyn tawelu meddwl aelodau’r gymuned dros y penwythnos.
Llun: Google Maps