Newyddion S4C

Cymru i herio'r Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf yn Euro 2025

Merched Pêl-droed Cymru

Fe fydd Cymru yn herio'r Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf yn Euro 2025 ddydd Sadwrn. 

Mae tîm Rhian Wilkinson wedi cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf erioed.

Mae Cymru yn wynebu grŵp hynod o anodd yn y bencampwriaeth, gyda Lloegr a Ffrainc hefyd yng Ngrŵp D. 

Fe enillodd Yr Iseldiroedd y bencampwriaeth yn 2017, roedd Ffrainc yn y rownd gyn-derfynol yn 2022 a Lloegr ydy'r pencampwyr presennol.

Dim ond un gêm y mae Cymru wedi ei hennill yn eu 10 gêm ddiwethaf, gan ildio 14 o goliau. 

Mae Sophie Ingle wedi gwella o anaf hir-dymor i'w phen-glin ym mis Medi y llynedd i gael ei chynnwys yn y garfan, ond nid yw hi'n glir eto faint o bêl-droed y bydd hi'n gallu chwarae yn y gystadleuaeth. 

Mae Ingle wedi chwarae 149 o gemau i'r tîm cenedlaethol, ac roedd yn gapten ar y tîm am naw mlynedd hyd at Ebrill 2024. 

Fe fydd Cymru yn gobeithio y bydd Jess Fishlock, sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros ei gwlad yn ogystal â sgorio'r nifer fwyaf o goliau, yn serennu gyda'i phrofiad a'i safon. 

Ni fydd yr amddiffynwr Mayzee Davies yn rhan o'r bencampwriaeth, a hynny wedi iddi rwygo ei ACL yn ei phen-glin yn erbyn Denmarc fis diwethaf.

Y tro diwethaf i'r ddau dîm wynebu ei gilydd yn gystadleuol oedd yn rowndiau rhagbrofol Euro 2009. 

Fe enillodd Yr Iseldiroedd o 2-1 yn Volendam ar 26 Awst 2007, cyn curo Cymru yng Nghasnewydd o 1-0 ar 20 Chwefror 2008.

Fe enillodd Yr Iseldiroedd gemau cyfeillgar yn erbyn Cymru yn 2012 a 2017 hefyd.

Y daith i'r Swistir

Wedi iddi gael ei phenodi cyn rowndiau rhagbrofol Euro 2025, fe wnaeth Rhian Wilkinson arwain Cymru i ymgyrch ragbrofol ddi-guro, gan ennill pedair o'u chwe gêm. 

Ar ôl sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle, fe wnaeth Cymru sicrhau buddugoliaeth agos yn erbyn Slofacia cyn curo Gweriniaeth Iwerddon i sicrhau eu lle yn Euro 2025. 

Gan sgorio mewn pedair o'r chwe gêm yn y rowndiau rhagbrofol, Jess Fishlock oedd prif sgoriwr Cymru yn yr ymgyrch. 

Dywedodd Rhian Wilkinson, a gafodd ei geni yng Nghanada ond sydd â'i Mam yn dod o Gymru, y dylai pobl ddisgwyl gweld "tîm uchelgeisiol" wrth weld Cymru yn chwarae. 

"Dwi'n edrych ar y tîm yma, dwi'n meddwl eu bod nhw mor barod i fod yn rhan o brif bencampwriaeth. 

"Fe fydd pobl Cymru yn mwynhau prif bencampwriaeth, ond i fy chwaraewyr, cystadleuaeth fydd hon ac felly mae gennym ni waith i'w wneud, ac mae hynny'n ddarn meddylfryd bach nad ydyn nhw erioed wedi gorfod ei brofi o'r blaen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.