
Rose Datta: Cyfleoedd yn y Gymraeg yn helpu perfformwyr benywaidd i 'sefyll allan'
Mae’r gantores Rose Datta wedi dweud iddi gael nifer o gyfleoedd ers ennill cyfres gyntaf Y Llais – yn enwedig fel menyw sy’n perfformio drwy’r Gymraeg.
Ac wrth i’r dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer y gyfres nesaf agosáu, mae’n dweud y byddai’n annog unrhyw un sy’n “angerddol” am gerddoriaeth i gymryd mantais o’r cyfle.
Daw wedi iddi ryddhau ei sengl newydd, Gwerthfawr, yr wythnos hon; cân sy’n dathlu’r pwysigrwydd o ganfod eich gwerth eich hun.
Enillodd Rose cyfres gyntaf Y Llais diwedd mis Mawrth eleni – ac ers y noson honno mae bywyd wedi bod yn brysur iddi.
Fe berfformiodd mewn noson i ddathlu Rownd Feirniadu Cyn-Derfynol ar gyfer cystadleuaeth yr Emmy® Rhyngwladol 2025 yng Nghastell Caerdydd ddiwedd mis Mehefin.
Ac yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn canu gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, yr Urdd ac S4C yn ystod ymgyrch Pencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ei bod yn falch o fod yn rhan o’r prosiect a wnaeth rhoi llwyfan iddi fel perfformiwr unigol. Mae Rose hefyd yn prif-leisydd gyda'r band, Taran.
Roedd yn gyfle i ddathlu cerddoriaeth gan fenywod yng Nghymru, meddai.
“Sai’n credu bod llawer mawr – yn y byd Cymraeg eniwe – o fenywod sy’n berfformwyr [unigol] o gymharu â bandiau Cymraeg.
“So fi’n meddwl bod hwnna’n rhywbeth sy’n rili sefyll allan ac sy’n rili da hefyd.”

Profiadau 'gwallgof'
Caryl Parry Jones wnaeth ysgrifennu’r anthem i gefnogi tîm pêl-droed Cymru, ac roedd Rose yn cael ei pherfformio ar y cyd gyda’i hyfforddwr ar Y Llais, y gantores reggae Aleighcia Scott a’r band Eden.
“Odd e’n mor insane,” meddai Rose wrth drafod y profiad.
“Ges i e-bost yn gofyn os o’ fi eisiau bod yn rhan ohono a nesi ddarllen bydd Eden ac Aleigchia [Scott] yn rhan ohono fe hefyd.
“O’n i fel, mae hyn yn crazy bod fi’n cael bod yn rhan o hwn efo’r bobl yna.
“O’n i ddim yn gorfod meddwl amdano fe – o’n i fel absolutely!
“Odd e mor hwyl. Nath Caryl [Parry Jones] sgwennu’r gan ac odd e mor dda, mae’n cadw’n styc ym mhen fi odd e mor dda.”

Angerdd
Dyddiad cau ymgeisio ar gyfer Y Llais yw dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2025 am 23.59.
Mae Rose wedi dweud y byddai’n annog unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio i wneud “100%”.
“Dylse pobl – os maen nhw’n meddwl amdano neud e, ac os mae cerddoriaeth yn rhywbeth maen nhw’n rili lyfio ac maen nhw’n angerddol amdano – sai’n meddwl gall unrhyw beth wael dod ohono,” meddai.
Mae’n argymell pobl i berfformio caneuon maen nhw’n eu “rili caru” gan fod hynny’n “ymddangos wedyn i’r gynulleidfa os ti’n gallu colli dy hun yn y perfformiad.” Mae’n dweud ei bod yn falch o’r hyn y mai wedi ei chyflawni hyd yma, gan gynnwys ei chân newydd.
Y gantores-gerddores Mared Williams a’r cynhyrchydd-gerddor Nate Williams sydd wedi ysgrifennu'r alaw a’r geiriau ar y cyd, fel rhan o wobr Rose am ennill Y Llais.
Mae Gwerthfawr yn cael ei ddosbarthu gan PYST ac ar gael ar holl wefannau ffrydio yn cynnwys Spotify, Apple Music, Deezer ac YouTube.
Fe fydd Rose yn parhau i berfformio drwy gydol yr haf ac mae’n edrych ymlaen at ryddhau albwm gyda’i band Taran ym mis Awst.