Terfysg Trelái: Gallai tenantiaid sy'n euog o droseddau gael eu gorfodi i adael eu tai

Car ar dan yn Nhrelái.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ysgrifennu at denantiaid tai cyngor yn Nhrelái yn rhybuddio y gallent gael eu gorfodi i adael eu tŷ petai aelod o’r aelwyd yn eu cael yn euog o droseddau yn ymwneud â’r terfysg yn yr adral ym mis Mai 2023.

Cafodd rhybuddion eu hanfon gan y cyngor i denantiaid 17 o dai fis yma, yn hysbysu bod Heddlu De Cymru wedi rhoi gwybod iddyn nhw bod aelod o’r aelwyd wedi eu cyhuddo o drosedd yn gysylltiedig â’r anhrefn.

Yn ôl adroddiad The Guardian, roedd yr anhrefn wedi ei ddisgrifio gan y cyngor fel “digwyddiad difrifol a wnaeth achosi straen sylweddol drwy gydol y gymuned.”

Mae 42 o bobl wedi eu cyhuddo o fod yn rhan o’r terfysg ac achosi neu fygwth achosi difrod troseddol. Mae 11 o bobl wedi eu dedfrydu, gan gynnwys wyth person oedd dan 18 ar y pryd.

Mae disgwyl i’r achosion llys barhau tan fis Chwefror 2026.

Yn ôl y llythyr, dywedodd y cyngor wrth denantiaid: “Mae hyn yn groes i’ch cytundeb preswyl, sy’n nodi eich bod yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw aelodau o’ch aelwyd, gwesteion neu ymwelwyr o fewn cyffiniau eich eiddo.”

Os y bydd yr unigolyn neu’r unigolion dan sylw yn derbyn euogfarn a’u dedfrydu, gall y cyngor fynd i’r llys i geisio adfeddiannu’r cartref, meddai.

Dywedodd Cyngor Caerdydd mai ei blaenoriaeth "yw diogelu tenantiaid a thrigolion yr ardal rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol."

'Cosbi'r gymuned'

Mae’r llythyrau wedi synnu a phoeni rhai yn y gymuned.

“Dydw i ddim yn deall pam maen nhw’n anfon hwn ddwy flynedd ar ôl i’r digwyddiad ddigwydd a phan na fydd fy mab yn ymddangos yn y llys tan yn ddiweddarach eleni.

“Mae’n ofnadwy, mae wedi’i gynllunio i gosbi’r gymuned gyfan. Beth am fy mhlant eraill?,” meddai un fenyw wrth the Guardian, a ofynnodd i beidio â chael ei henwi gan ddweud ei bod yn ceisio cyngor cyfreithiol.

Cafodd dau ddiwrnod o derfysg rhwng 22 a 23 Mai 2023 eu sbarduno gan farwolaethau'r ffrindiau Harvey Evans, 15 oed, a Kyrees Sullivan, 16 oed, mewn damwain beic trydan.

Fe gafodd gwylnos ei chynnal yn ddiweddarach mewn teyrnged i'r bechgyn.

Roedd fideo cylch cyfyng yn dangos fan heddlu yn teithio yn agos y tu ôl i’r beic cyn y gwrthdrawiad. Fe wnaeth Heddlu De Cymru gadarnhau’n ddiweddarach bod swyddogion mewn fan wedi bod yn dilyn y ddau fachgen hyd at ddau funud cyn y ddamwain.

Cafodd hysbysiadau camymddwyn difrifol eu cyflwyno i yrrwr y fan a'r teithiwr, ac fe gafodd ymchwiliad ei gynnal i'r gyrrwr am yrru'n beryglus gan y Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), ond ni chafodd ei gyhuddo.

Dywedodd llefarydd Cyngor Caerdydd: “Fe gafodd Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y cyngor, (o dan ei brotocol rhannu gwybodaeth gyda Heddlu De Cymru) wybod am sawl arestiad a chyhuddiad yn ymwneud â therfysg Trelái yn cynnwys tenantiaid y cyngor neu aelodau o’u haelwyd. 

"Gan fod y drosedd hon wedi’i chyflawni yn agos at eu cartref, byddai hyn yn gyfystyr â thorri eu contract tenantiaeth gyda’r cyngor. Felly, yn unol â Pholisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y cyngor, ac yn unol â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, cyflwynwyd hysbysiad meddiant i 17 o aelwydydd.

“Ein blaenoriaeth yw diogelu tenantiaid a thrigolion yr ardal rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae hwn yn broses arferol, pan fo cyhuddiad difrifol wedi’i wneud ac nad yw’r achos llys i’w glywed am beth amser, i gyflwyno hysbysiad. Bydd unrhyw gamau pellach yn cael eu hystyried ar ôl gwrandawiad y llys."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.