Bachgen 10 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad bws ysgol
Roedd plentyn a fu farw mewn gwrthdrawiad bws ysgol yng Ngwlad yr Haf yn fachgen 10 oed, meddai’r heddlu.
Mae chwech o blant a thri oedolyn yn yr ysbyty o hyd ar ôl i fws ysgol adael yr A396 yn Cutcombe Hill ger Minehead a llithro i lawr llethr 20 troedfedd brynhawn Iau.
Roedd y cerbyd wedi bod yn dychwelyd i Ysgol Ganol Minehead o drip i Sŵ Exmoor gan gludo 60 i 70 o ddisgyblion a staff pan ddigwyddodd y digwyddiad.
Cadarnhaodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ddydd Gwener fod bachgen 10 oed wedi marw yn y gwrthdrawiad.
Nid yw'r broses o adnabod y plentyn yn ffurfiol wedi'i chwblhau eto, ond mae swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn cefnogi ei berthnasau agosaf.
Mewn datganiad, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Mark Edgington: “Ar ran y gwasanaethau brys, hoffwn ddiolch i’r 24 o wirfoddolwyr o Dîm Canfod ac Achub Exmoor a gynigiodd wasanaeth cymorth cyntaf yn y ganolfan orffwys.
“Rydw i hefyd yn ddiolchgar i staff tafarn Rest and Be Thankful yn Wheddon Cross, a agorodd eu drysau fel y ganolfan orffwys.
“Wrth gwrs, rydym hefyd yn cydnabod ymdrechion Ysgol Minehead, am sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn gwybod beth sy’n digwydd ac am ddarparu cefnogaeth i gymuned yr ysgol yn ystod cyfnod anodd a gofidus iddyn nhw i gyd.”