Rhybudd cyn i brawf argyfwng gael ei anfon i bob ffôn symudol
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio’r cyhoedd cyn i brawf argyfwng gael ei anfon i bob ffôn symudol ddydd Sul.
Bydd prawf rhybuddion argyfwng yn cael ei anfon at bob ffôn symudol ledled y DU am 15.00.
Fe fydd yn cynhyrchu sain uchel a dirgryniad ar bob dyfais - hyd yn oed os ydynt wedi'u gosod i fod yn dawel - oni bai bod rhybuddion argyfwng wedi'u diffodd o flaen llaw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y rheiny sy'n cadw ffôn cudd ar gyfer ei ddefnyddio mewn argyfwng am eu bod yn wynebu cam-drin domestig
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt eu bod nhw “eisiau i bawb yng Nghymru fod yn ddiogel ac yn wybodus”.
“Er bod rhybuddion argyfwng wedi'u cynllunio i'n hamddiffyn ni i gyd, rydym yn deall y gallant achosi pryder i'r rhai mewn sefyllfaoedd agored i niwed sydd ag ail ffôn cudd er mwyn eu diogelwch,” meddai.
Daw ei sylwadau wedi i elusen Cymorth i Ferched Cymru rybuddio y gallai y prawf effeithio ar ddiogelwch ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig sydd yn cadw ffôn cudd.
Sut mae diffodd y rhybudd?
Er mwyn atal ffonau cudd rhag cael eu canfod, gellir diffodd rhybuddion argyfwng o flaen llaw.
Ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau iPhone ac Android, gellir gwneud hyn trwy chwilio am 'emergency alerts' yn y gosodiadau a diffodd 'severe alerts' ac 'extreme alerts'.
Ar gyfer mathau eraill o ffonau symudol neu dabledi, gallai'r gosodiadau hyn ymddangos o dan enwau gwahanol fel 'wireless emergency alerts' neu 'emergency broadcasts'.
Mae llwybrau cyffredin yn y gosodiadau yn cynnwys:
• Messages → Message Settings → Wireless Emergency Alerts → Alerts
• Settings → Sounds → Advanced → Emergency Broadcasts
• Settings → General Settings → Emergency Alerts
Ym mhob achos, dylai defnyddwyr ddiffodd 'severe alerts', 'extreme alerts', a 'test alerts' ar eu ffonau cudd.
Mae cymorth ar gael i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig. Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim drwy ffonio 0808 80 10 800.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mynediad at wasanaethau lleol, ar gael ar wefan Byw Heb Ofn.
Dywedodd Jane Hutt: “Trwy rannu'r canllawiau hyn ymlaen llaw, rydym yn gobeithio helpu unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus, gan gadw mynediad at rybuddion a allai achub bywydau yn ystod argyfyngau go iawn ar eu prif ffonau.
“Rwyf hefyd yn annog unrhyw un mewn cartref anniogel i ofyn am gymorth.”