Reform UK i drafod 'y cam nesaf' yng nghynhadledd y blaid
Mae Reform UK yn gobeithio ennill y blaen ar y pleidiau eraill ar ddechrau tymor y cynadleddau trwy gynnal ei chynhadledd flynyddol cyn eu gwrthwynebwyr.
Ar ôl treulio'r haf yn cynnal cynadleddau wythnosol i'r wasg, bydd y blaid yn cyfarfod yn Birmingham dros y dyddiau nesaf, gyda chynnydd mawr yn nifer ei haelodau dros y 12 mis diwethaf.
Dywedodd y blaid eu bod yn disgwyl tua 12,000 o bobl i fynychu'r gynhadledd dros y dyddiau nesaf.
Mae disgwyl i gyn-ysgrifennydd diwylliant y Ceidwadwyr, Nadine Dorries, ymddangos yn y digwyddiad, ar ôl cyhoeddi ei bod wedi ymuno â'r blaid.
Fe fydd Aelod cyntaf Reform yn Senedd Cymru, Laura Anne Jones hefyd yn siarad yn y gynhadledd.
Mae Ms Jones yn Aelod o'r Senedd ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd, ac roedd yn cynrychioli'r Ceidwadwyr ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru, cyn cefnu arnyn nhw i ymuno â Reform.
Ers digwyddiad y llynedd, mae nifer yr aelodau wedi cynyddu o 80,000 i bron i 240,000.
Cyn y gynhadledd, roedd arweinydd Reform UK, Nigel Farage yn yr Unol Daleithiau ac yno fe ddywedodd bod dylanwad Islam yn y DU yn “drychineb go iawn".
Mae mewnfudo wedi "newid y DU yn sylfaenol", meddai wrth Fox News, gan siarad cyn iddo roi tystiolaeth i ymchwiliad cyngresol ar “Fygythiad Ewrop i Lefaredd ac Arloesedd America”.
Yn ystod y sesiwn holi, fe wynebodd Farage gwrthwynebiad chwyrn gan rai aelodau o'r blaid Ddemocrataidd, gyda'r aelod Jamie Raskin yn ei alw'n "ffugiwr dros ryddid barn sydd yn caru Putin."
Er y bydd mewnfudo yn ffocws mawr yn Birmingham, mae thema swyddogol y gynhadledd yn canolbwyntio ar “y cam nesaf” yn nhwf y blaid ei hun.
Bwriad Reform yw defnyddio'r gynhadledd i ddenu sylw'r cyhoedd drwy gynnal cyfarfod sydd yn teimlo'n fwy Americanaidd ei naws, o'i chymharu â'r digwyddiadau traddodiadol sy'n cael eu cynnal gan y pleidiau eraill.