
Cynnal penwythnos o weithgareddau i ddathlu bywyd Mike Peters
Fe fydd cyfres o weithgareddau yn cael eu cynnal y penwythnos hwn i gofio am y cerddor Mike Peters.
Bu farw prif leisydd The Alarm yn 66 oed fis Ebrill, a hynny yn dilyn triniaethau ar gyfer canser y gwaed.
Roedd wedi bod yn dioddef o ganser ar gyfnodau am dros 30 o flynyddoedd.
Fe ddaeth miloedd o bobl ynghŷd yn Nyserth, Sir Ddinbych, fis Mai, ar gyfer angladd y seren roc, oedd wedi perfformio gyda cherddorion gan gynnwys Bob Dylan, Bruce Springsteen, a'r band U2.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1928100711826403491
Fe fydd y pentref yn ganolbwynt i benwythnos o weithgareddau'r penwythnos hwn, fydd yn cynnig cyfle i bobl “fod yng nghwmni pobl sydd yn credu ym mhŵer positifrwydd”, ddathlu bywyd Mr Peters a chasglu arian i elusennau.
Mae’r digwyddiad, o'r enw Solidarity wedi ei drefnu gan weddw Mike, Jules Peters, a gwirfoddolwyr yr elusen Love Hope Strength, gafodd ei sefydlu gan y cwpwl.
Dywedodd Jules, sy'n gadeirydd yr elusen: “Bydd hwn yn benwythnos hir arbennig iawn o fyfyrio, ymlacio, hwyl a chrwydro yn ac o gwmpas The Red, tafarn y pentref a brynais ddwy flynedd yn ôl ac sydd bellach yn lle poblogaidd iawn i dreulio amser ynddo.
“Llwyddodd Mike i ymuno â ni'r llynedd am ran o’r daith gerdded a pherfformiodd yn The Red, felly bydd colled fawr ar ei ôl y tro hwn, ond rwy’n gwybod y bydd cefnogaeth y grŵp yn fy nghynnal drwodd.”

Fe fydd taith gerdded yn cael ei chynnal ddydd Gwener, yn ogystal â sesiynau ymlacio a noswaith o gerddoriaeth yn nhafarn y Red.
Ddydd Sadwrn, fe fydd taith gerdded 10 milltir o’r enw Rock ‘n’ Stroll, yn mynd ar hyd rhai o draethau’r ardal, tra bod yna westeion arbennig yn perfformio yn y Red.
I gloi’r ŵyl ddydd Sul, fe fydd digwyddiad mewn cydweithrediad â’r elusen DKMS yn cynnig cyfle i bobl roi eu hunain ar y rhestr gofrestru celloedd bonyn drwy rannu swab.
Mae Love Hope Strength eisoes wedi llwyddo i ddenu 250,000 o bobl ledled y byd i ymuno â chofrestr DKMS, sef cofrestr celloedd bonyn mwyaf y byd, ers 2013.
Ychwanegodd Ms Peters: “Dros yr ychydig fisoedd diwethaf ers i ni golli Mike, rwyf wedi darganfod bod rhoi gobaith i eraill yn helpu fy ngalar ac felly byddwn yn gwneud ‘Swab Sunday’ yn The Red, felly dewch i gael eich rhoi ar y rhestr gofrestru celloedd bonyn ac o bosibl achub bywyd rhywun yn y dyfodol.”