Dyfodol Angela Rayner yn y fantol yn dilyn sgandal treth

Rayner / Starmer

Mae disgwyl i Ddirprwy Brif Weinidog y DU, Angela Rayner, glywed a yw hi wedi torri rheolau yn ymwneud â safonau gweinidogol ddydd Gwener ar ôl cyfaddef iddi beidio â thalu digon o dreth stamp ar eiddo.

Mae’r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer yn wynebu galwadau i ddiswyddo Ms Rayner, wedi iddi hi gyfeirio ei hun at ymgynghorydd annibynnol.

Fe wnaeth hi arbed £40,000 mewn treth stamp wrth brynu fflat yn Hove, de Lloegr, oherwydd iddi dynnu ei henw oddi ar weithredoedd ei chartref teuluol yn ei hetholaeth yn Ashton-under-Lyne ger Manceinion. 

Mae Ms Rayner yn dweud iddi wneud hynny ar ôl derbyn cyngor gan gwmni cyfreithiol o Sussex, o’r enw Verrico and Associates.

Ond mae’r cwmni bellach wedi gwadu hynny, gan ddweud nad yw eu cyfreithwyr “erioed” wedi rhoi cyngor i Ms Rayner. 

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Joanna Verrico: “Nid ydym yn gymwys i roi cyngor ar faterion ymddiriedolaeth a threthi ac rydym yn cynghori cleientiaid i ganfod cyngor arbenigol ar y rhain.”

Dywedodd sylfaenydd y cwmni eu bod wedi cwblhau’r ffurflen dreth stamp “yn seiliedig ar y ffigyrau a'r wybodaeth a ddarparwyd gan Ms Rayner”.

“Rydym yn credu ein bod wedi gwneud popeth yn gywir ac yn ddidwyll. Roedd popeth yn union fel y dylai fod.

“Mae’n debyg ein bod yn cael bai ar gam am hyn i gyd, ac mae gen i’r saethau yn sownd yn fy nghefn i ddangos hynny.”

'Esgusodion a chelwyddau'

Mae Mr Starmer wedi gwrthod cadarnhau os y byddai’n diswyddo Ms Rayner, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Tai, pe byddai’r adroddiad gan y rheoleiddiwr moeseg yn dyfarnu yn ei herbyn.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi dweud bod dyfodol Ms Rayner yng nghabinet Mr Starmer bellach yn “anghynaladwy”.

“O’r cychwyn cyntaf, rydym wedi cael dim byd ond esgusodion a chelwyddau. Digon yw digon.

“Sawl cyfle arall gall Angela Rayner dderbyn? Mae’n rhaid iddi ymddiswyddo neu bydd yn rhaid i Keir Starmer ddod o hyd i’w asgwrn cefn a’i diswyddo.”

'Cymhleth'

Mewn datganiad swmpus ddydd Mercher, dywedodd Ms Rayner fod y "trefniant byw yn un cymhleth" gan bod ei chartref cyntaf wedi ei werthu i ymddiriedolaeth ar ôl ei hysgariad, er mwyn darparu sefydlogrwydd ar gyfer ei mab anabl sydd yn ei arddegau. 

Eglurodd bod y mater wedi ei gadw’n gyfrinachol er mwyn gwarchod ei mab, ond iddi wneud cais i'r llys ddoe i godi'r gwaharddiad cyfrinachedd, er mwyn bod yn "dryloyw." 

“Mae e’n fregus, mae ganddo gyflwr gydol oes sydd wedi newid ei fywyd, a dydw i ddim eisiau iddo fe, nac unrhyw elfen o’i fywyd fod yn destun y lefel hwn o graffu," meddai.

Fe ychwanegodd: “Rwy’n difaru’n fawr am y camgymeriad a wnaed. Rwyf wedi ymrwymo i ddatrys y mater hwn yn llawn a darparu'r tryloywder y mae gwasanaeth cyhoeddus yn ei fynnu. 

“Am y rheswm hwnnw rwyf heddiw wedi cyfeirio fy hun at y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol, a byddaf yn rhoi fy nghydweithrediad llawn iddo a mynediad iddo at yr holl wybodaeth sydd ei hangen arno."

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.