Rwsia yn taro un o brif adeiladau llywodraeth Wcráin am y tro cyntaf

Adeilad llywodraeth Wcrain

Mae Rwsia wedi taro un o brif adeiladau llywodraeth Wcráin yn Kyiv am y tro cyntaf ers dechrau’r rhyfel.

Roedd targedu adeilad Cabinet y Gweinidogion yn "ymgais fwriadol" gan Rwsia i ymestyn y rhyfel meddai Llywodraeth Wcráin.

Dywedodd yr Arlywydd Zelensky bod Rwsia wedi tanio dros 800 o daflegrau a dronau dros nos.

Mae o leiaf tri o bobl wedi eu lladd, meddai, gan gynnwys menyw 32 oed a phlentyn dau fis oed, meddai.

"Mae llofruddiaethau o'r fath nawr, yn hytrach na throi at ddiplomyddiaeth ers amser maith, yn drosedd fwriadol ac yn estyniad o'r rhyfel,” meddai.

Galwodd ar gynghreiriaid i "weithredu ar bopeth a gytunwyd" mewn trafodaethau ym Mharis yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd Prif Weinidog Wcráin, Yulia Svyrydenko, bod yr adeilad wedi ei ddifrodi gan ymosodiad gan Rwsia “am y tro cyntaf”.

Roedd yr ymosodiad wedi difrodi nenfwd a lloriau uchaf yr adeilad yn ardal Pecherskyi y brifddinas, meddai.

Fe gafodd adeilad preswyl 16 llawr, adeilad pedair llawr, a warws eu taro hefyd.

Dywed gweinyddiaeth amddiffyn Rwsia ei bod wedi atal o leiaf 69 o dronau o Wcráin mewn ymosodiadau dros nos.

Roedd 21 ohonyn nhw wedi eu hatal yn Krasnodar Krai, 13 yn rhanbarth Voronezh, a 10 uwchben rhanbarth Belgorod.

Cafodd y gweddill eu hatal ar draws rhanbarthau eraill yn Rwsia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.