Cymru heb fod yn ddigon o flaenoriaeth i'r Blaid Werdd medd arweinydd newydd

Zack Polanski

Dyw Cymru heb fod yn ddigon o flaenoriaeth i’r Blaid Werdd yn y gorffennol ac mae’n rhaid i hynny newid, meddai arweinydd newydd y blaid.

Fe gafodd Zack Polanski, a astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei ethol yn arweinydd ddydd Mawrth.

Mae’r blaid wedi gweld llwyddiant yn San Steffan, gyda pedwar o ASau, ac mae ganddyn nhw dri aelod yng Nghynulliad Llundain.

Ond dywedodd Zack Polanski bod ethol aelodau i’r Senedd – lle nad yw’r blaid erioed wedi cael cynrychiolydd – bellach yn “flaenoriaeth ganolog”.

“Rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw, fel arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr, Cymru yw fy mhrif flaenoriaeth wrth i ni agosáu at etholiadau'r Senedd ym mis Mai,” meddai ar raglen Sunday Supplement.

Ychwanegodd: “Rwy’n credu nad yw Cymru wedi cael y statws blaenoriaeth sydd ei angen arni erioed.

“Dydw i ddim wedi bod yn dweud hyn yng Nghymru yn unig.

“Mae Caerdydd yn flaenoriaeth ganolog, fel y mae Cymru o ran sicrhau ein bod yn adeiladu'r sylfaen werdd honno.

“Allwn ni ddim bod yn Blaid Werdd Cymru a Lloegr oni bai ein bod ni’n canolbwyntio ar Gymru hefyd.”

'Argyfwng'

Dywedodd bod yna “wahaniaethau amlwg” rhwng y Gwyrddion a Phlaid Cymru a oedd yn cyfiawnhau bwrw pleidlais dros ei blaid yng Nghymru.

Mae’r ddwy blaid wedi dod i gytundebau mewn etholaethau unigol mewn rhai etholiadau blaenorol.

“Mae cydweithredu yn greiddiol i athroniaeth y Blaid Werdd a'r ffyrdd rydym yn gweithio,” meddai Zack Polanski.

“Rwy'n credu bod pobl wedi blino ar glywed gwleidyddion yn gweiddi ar ei gilydd neu'n beirniadu ei gilydd yn ddiangen.

“Rwy'n credu yn enwedig pan edrychwch ar Blaid Cymru yn y Senedd, mae yna wahaniaethau amlwg. 

“Rydyn ni’n rhoi'r amgylchedd ac rydym yn rhoi'r argyfwng hinsawdd wrth galon ein polisïau. 

“Bydd pobl weithiau'n dweud y dylai anghydraddoldeb fod yn ffocws canolog, ond mewn gwirionedd, mae anghydraddoldeb yn cael ei waethygu cymaint gan yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig yng Nghymru.

“Ledled Cymru, rydym yn gwybod y bydd tanau gwyllt a llifogydd yn broblem gynyddol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.