Image

Roedd un o’r prif ffyrdd ger tref Caerfyrddin ar gau am gyfnod brynhawn ddydd Sul wedi gwrthdrawiad.
Roedd ochr ddwyreiniol yr A40 ar gau rhwng Maes Sioe Caerfyrddin a chylchfan B&Q.
Fe wnaeth yr heddlu ofyn i yrrwyr osgoi'r ardal a dod o hyd i lwybrau eraill mewn neges am 13.15.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: “A40 i'r dwyrain - Maes Sioe Caerfyrddin i Gylchfan B&Q.
“Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd oherwydd gwrthdrawiad traffig.
“Osgowch yr ardal a dewch o hyd i lwybr arall ar gyfer eich taith os gwelwch yn dda. Diolch.”
Cyhoeddodd yr heddlu am 15.10 bod y ffordd wedi ail agor.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.