Cwest Betws Garmon: Merch fach wedi marw o 'anafiadau difrifol i'w phen'
Cwest Betws Garmon: Merch fach wedi marw o 'anafiadau difrifol i'w phen'
Mae cwest i farwolaeth merch un oed ar safle gwersylla yng Ngwynedd wedi clywed ei bod wedi marw ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w phen mewn gwrthdrawiad.
Bu farw Mabel Elizabeth Baldini yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ar ôl cael ei hanafu ar safle gwersylla Bryn Gloch ym Metws Garmon ar 28 Ebrill.
Bu farw yn yr ysbyty'n ddiweddarach yr un diwrnod.
Wrth agor y cwest i'w marwolaeth yng Nghaernarfon fore dydd Gwener, dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, fod Mabel wedi ei geni yn Crewe ac yn byw yn Winsford yn Sir Caer.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwersyll yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad ac fe gafodd ei chludo i Ysbyty Alder Hey.
"Yn dris iawn bu hi farw yn fuan wedyn," meddai'r crwner.
Dywedodd mai'r rheswm am ei marwolaeth oedd anaf difrifol i'w phen o ganlyniad i wrthdrawiad.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.