Newyddion S4C

Teyrnged i fam 'ffyddlon' ar ôl llofruddiaeth honedig

tracey davies.jpg

Mae teyrnged wedi ei rhoi i fenyw y mae'r heddlu yn ymchwilio i'w llofruddiaeth honedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe gafodd Tracey Davies, 48, ei darganfod yn farw mewn eiddo yng Nghefn Cribwr ar 18 Ebrill. 

Mae dyn 56 oed, Michael Davies, wedi'i gyhuddo o'i llofruddio.

Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Roedd yn fam a ffrind ffyddlon, yn chwaer oedd wedi ei thrysori, ac yn bresenoldeb disglair gyda'i chwerthiniad heintus.

"Ei phlant oedd ei balchder mwyaf, ac fe wnaeth hi frwydro amdanyn nhw gydag ymroddiad di-ail.

"Er bod y golled yn enfawr, bydd ei gwaddol yn parhau yn fyw drwy'r cariad y rhoddodd a'r bywydau y newidiodd. Does dim byd yn cymharu iddi hi, ac fe fydd yn cael ei charu, ei cholli a'i chofio am byth."

Fe gafodd swyddogion eu galw ychydig ar ôl 9.15pm nos Wener, 18 Ebrill, i eiddo ar Deras Bryn yng Nghefn Cribwr. 

Ar ôl cyrraedd, fe wnaeth swyddogion ddarganfod corff Tracey Davies.

Cafodd Michael Davies o Gefn Cribwr ei arestio yn y fan a'r lle ar amheuaeth o lofruddio Ms Davies. 

Mae bellach wedi ei gyhuddo o'i llofruddio, ac fe fydd yn wynebu achos llys ym mis Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.