Cofnodi 47 achos o haint cryptosporidium ymhlith ymwelwyr siop fferm
Mae 47 achos o haint cryptosporidium wedi eu cofnodi ymhlith pobl sydd wedi ymweld â siop fferm yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mercher eu bod yn ymchwilio i nifer o achosion o'r haint cryptosporidium ymhlith pobl sydd wedi bod mewn cyswllt â lloi ac ŵyn yn Siop Fferm y Bont-faen ar Fferm Marlborough Grange.
Bryd hynny, dywedodd yr awdurdod iechyd bod 28 achos o'r haint, ond erbyn hyn mae yna 47 o achosion.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio y bydd nifer yr achosion yn debygol o gynyddu dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Su Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod yn parhau i ymchwilio i'r achos.
"Er bod yr haint fel arfer yn ysgafn ac yn hunangyfyngol, gall fod yn fwy difrifol mewn plant ifanc neu bobl â systemau imiwnedd gwan," meddai.
"Rydym yn annog unrhyw un a ymwelodd â’r fferm ac sy’n teimlo’n sâl i gysylltu â’u meddyg teulu neu GIG 111.
"Sicrhau hylendid da yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun ac eraill."
Mae Siop Fferm y Bont-faen bellach wedi rhoi'r gorau yn wirfoddol i'r gweithgareddau sy'n ymwneud â'r anifeiliaid ac yn cydweithredu â’r ymchwiliad.
Math o salwch yw cryptosporidium sy'n gallu achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn, a chrampiau stumog.
Mae ŵyn ac anifeiliaid fferm eraill yn gallu lledaenu cryptosporidiosis.