Joe Allen yn ymddeol o chwarae pêl-droed
Joe Allen yn ymddeol o chwarae pêl-droed
Mae Joe Allen wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o chwarae pêl-droed rhyngwladol ac o'i glwb.
Yn 35 oed, mae Allen wedi bod yn chwaraewr hollbwysig i Gymru ac i Abertawe dros y blynyddoedd - gyda'r 'Pirlo Cymreig' yn un o ffefrynnau'r Wal Goch.
Mae wedi cynrychioli Cymru 77 o weithiau, gan sgorio ddwywaith, ac wedi cynrychioli ei wlad yng nghystadlaethau mwya'r byd, gan gynnwys Euro 2016, Euro 2020 a Chwpan y Byd yn 2022.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynardd Arberth ac Ysgol Gyfun Y Preseli yng Nghrymych, chwaraeodd Allen ei gêm gyntaf dros Gymru ym mis Mai 2009 pan oedd yn 20 oed.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Clwb Pêl-droed Abertawe y bydd Allen yn ymddeol o bêl-droed ar ôl gêm gartref y clwb yn erbyn Oxford United ddydd Sadwrn.
Wrth siarad am ei ymddeoliad, dywedodd Allen: "Mae'n meddwl mor gymaint i fi, i ddechrau yma (yn Abertawe), cael y siawns i ddod 'nôl. Dwi 'di bod mor lwcus.
"Dwi mor ddiolchgar i bawb 'naeth gwneud i hwnna ddigwydd.
"Dwi'n caru'r clwb yma, dwi 'di cael cefnogaeth anhygoel fel ma' pawb sy'n chwarae i'r clwb yma yn ac dwi'n edrych ymlaen, dwi'n gobeithio bydd e'n ffordd gwych gyda gêm gartref i gael ddweud hwyl fawr a diolch i bawb fydd yna."
Fe ddaeth ymlaen i'r cae fel eilydd i Jack Collison yn erbyn Estonia ar Barc y Scarlets, wrth i Gymru ennill 1-0.
Ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, dechreuodd Allen dros Gymru am y tro cyntaf mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012 yn erbyn y Swistir yn Stadiwm Swansea.com
Yn yr un flwyddyn enillodd deitl chwaraewr y flwyddyn i Gymru, yr unig dro iddo gipio'r teitl hwnnw.
Bu Allen yn un o brif chwaraewyr y garfan yn ystod y blynyddoedd canlynol, a chafodd y fraint o arwain ei wlad yn gapten, yn absenoldeb Ashley Williams.
Fe wnaeth ei berfformiadau yn Euro 2016 arwain at gael ei enwi yn nhîm y gystadleuaeth gydag Aaron Ramsey.
Cyhoeddodd ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Chwefror 2023, ond daeth cadarnhad ym mis Hydref 2024 ei fod yn dychwelyd i garfan Cymru dan Craig Bellamy.

Fe ddechreuodd Allen ei yrfa broffesiynol gydag Abertawe yn 2000, gan chwarae 127 o gemau i'r Elyrch yn y cyfnod yma a sgorio saith o goliau.
Wedi cyfnod byr ar fenthyg gyda Wrecsam, aeth ymlaen i chwarae i Lerpwl am bedair blynedd a Stoke am chwe blynedd.
Fe chwaraeodd 91 o gemau i Lerpwl, a dros 200 o gemau i Stoke.
Ond dychwelyd oedd hanes y Pirlo Cymraeg i Abertawe yn 2022, gan barhau yno tan ddiwedd ei yrfa.
Fe chwaraeodd 68 gem dros yr Elyrch yn ei ail-gyfnod gyda'r clwb.