'Calon o aur': Teyrnged teulu i fachgen fu farw mewn tân ar safle diwydiannol
Mae teulu bachgen a fu farw mewn tân ar safle diwydiannol wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafwyd hyd i gorff Layton Carr y tu mewn i adeilad ym mharc diwydiannol Fairfield yn Gateshead yng ngogledd-ddwyrain Lloegr nos Wener.
Cafodd 11 o fechgyn a thair merch rhwng 11 ac 14 oed eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad a'u rhyddhau ar fechnïaeth dros y penwythnos.
Dywedodd yr heddlu ddydd Llun bod dau fachgen arall, y ddau yn 12 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad a'u bod nhw hefyd wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Layton ei fod yn "fachgen caredig, gofalgar a chariadus".
"Roedd Layton yn fachgen 14 oed arferol, yn hogyn cheeky a hapus," meddai ei deulu.
"Er gwaethaf ei ochr cheeky, roedd gan Layton galon o aur a byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un.
"Roedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei gyfarfod, ac roedd hynny'n amlwg."
Ychwanegodd y teulu: "Roedd yn fachgen teulu a oedd yn caru ei fam a’i chwiorydd yn fwy na dim yn y byd.
"Layton, rydyn ni'n dy garu di yn fwy nag y gall unrhyw eiriau byth ei esbonio."
Fe wnaeth y teulu ddiolch i "bawb a helpodd i ddod o hyd i Layton" a'r gwasanaethau brys.
"Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gwaith rydych chi’n ei wneud bob dydd i ddod â diweddglo i deuluoedd fel ein un ni," meddai'r teulu.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 20.00 nos Wener.
Roedd y tân dan reolaeth cyn hanner nos, meddai’r heddlu.