Cynnal dathliadau i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
Cynnal dathliadau i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
Mae dathliadau i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn cael eu cynnal yn y DU ddydd Llun.
Mae Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop ar 8 Mai 1945.
Ond mae'r dathliadau'n dechrau'n gynnar eleni er mwyn nodi 80 mlynedd ers y diwrnod hwnnw.
Bydd gorymdaith filwrol yn cael ei chynnal yn Llundain, gyda'r Brenin Charles, y Frenhines Camilla, a Thywysog a Thywysoges Cymru yn ei gwylio.
Bydd awyrennau'r Red Arrows hefyd yn cael eu hedfan dros y ddinas am 13.45.
Yn ddiweddarach yn y prynhawn, bydd y Brenin a'r Frenhines yn cynnal te parti ym Mhalas Buckingham ar gyfer tua 50 o gyn-filwyr a'u teuluoedd.
Yn dilyn hynny mae disgwyl i ddigwyddiadau cymunedol a phartïon stryd gael eu cynnal ar draws Prydain.
Bydd un ohonyn nhw'n cael ei gynnal ar HMS Belfast a oedd wedi tanio rhai o’r ergydion agoriadol ar D-Day ym 1944.
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer wedi canmol cyn-filwyr am eu "hymroddiad anhunanol".
"Mae Diwrnod VE yn gyfle i gydnabod, unwaith eto, na ellir byth ad-dalu ein dyled i'r rhai a'i cyflawnodd," meddai mewn llythyr agored i gyn-filwyr.
"Nid dim ond eich bod yn ein cadw ni i gyd yn ddiogel. Mae hefyd eich bod yn cynrychioli'r gorau o bwy ydym - cyswllt byw o wasanaeth sy'n uno'r gwerthoedd y mae'n rhaid i ni sefyll drostynt yn y presennol, gyda'r straeon y mae'n rhaid i ni eu trosglwyddo i lawr o'n gorffennol."
Bu farw 384,000 o filwyr Prydeinig a 70,000 o bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.