Newyddion S4C

Cyfrinachau’r conclaf: Beth yw'r broses o ethol Pab newydd?

Conclave / Conclaf

Dirgelwch, bargeinio, myfyrio, mentyll coch, mwg du a gwyn, mae cyfrinachau’r conclaf yn hudo ers canrifoedd.

Dyma un o etholiadau hynaf a mwya' dirgel y byd a hynny i ethol dyn – does dim merch yn agos at y broses – i arwain tua 1.4 biliwn o babyddion ac un o arweinwyr crefyddol enwoca’r byd.

Cardinaliaid sy’n dewis y pab sef uwch swyddogion o fewn yr eglwys sy’n ei gynghori.

Mae ‘na dros 250 i gyd o dros 90 o wledydd ond dim ond y rheini o dan 80 oed sy’n cael pleidleisio. 133 sydd efo'r hawl hwnnw y tro yma.

Fe gafodd dros 100 o’r rheini eu penodi gan y Pab Francis, pab y cyrion oedd yn awyddus i godi llais gwledydd y tu hwnt i Ewrop.

Am y tro cyntaf felly, fe fydd gan wledydd fel Haiti, Myanmar a Rwanda gynrychiolwyr yn y conclaf.

Ond dyw hynny ddim yn golygu bod y canlyniad yn hawdd i’w ddarogan.

'Dim ffonau, teledu na radio'

Mae hon yn frwydr rhwng y ceidwadol a’r rhyddfrydol – y cardinaliaid hynny sy’n awyddus i barhau ar lwybr Francis tuag at Eglwys fwy eangfrydig a goddefgar  a’r rheini sydd am ddychwelyd i ddysgeidiaeth fwy ceidwadol yn gadarn yn erbyn ordeinio merched a pherthnasau hoyw.

O’r Lladin cwm clave - 'gydag allwedd', mae’r cardinaliaid yn cael eu cloi o’r byd drwy gydol y coleg etholiadol. Ar ôl tyngu llw o gyfrinachedd, mae eu cyswllt a’r byd yn dod i stop.

Dim ffonau, dim teledu na radio, dim negeseuon. Eu cartref drwy gydol y broses fydd Casa Santa Marta, adeilad pum llawr y tu ôl i Fasilica San Pedr a chyn gartref Pab Francis.

Dros y dyddiau diwethaf, mae’r ystafelloedd syml, cyfforddus wedi cael eu harchwilio a’u selio a’u dosbarthu ar ôl i enwau cardinaliaid gael eu tynnu o het. Mi fydd prydau syml a llesol yn cael eu gweini i borthi’r myfyrio.

Ac yna mi fyddan nhw’n cerdded draw i ganolfan bleidleisio mwyaf godidog y byd, Capel Sistina gyda murluniau Michaelangelo yn gefnlen i’r cyfan.

Mwg gwyn

Fe fydd y bleidlais gyntaf yn cael ei chynnal brynhawn Mercher gyda’r cardinaliaid yn rhoi un enw ar ddarn o bapur gan sicrhau bod eu llawysgrifen yn anhysbys. Wedi hynny, fe fydd pedair pleidlais bob dydd ac os ‘na fydd cytundeb wedi tridiau,  yna saib a diwrnod o weddi.

Bob tro fe fydd y papurau pleidleisio yn cael eu llosgi mewn ffwrnais arbennig wedi ei gosod yng nghefn y capel. Os nad ydy un enw wedi denu dau draean o’r bleidlais yna fe fydd cemegau yn cael eu hychwanegu at y tân i droi’r mwg yn ddu. 

Ond pan fydd y trothwy wedi ei gyrraedd,  fe fydd mwg gwyn yn codi drwy’r simdde yn arwydd i’r dorf ac i’r byd bod pab newydd wedi ei ethol.

Fe fydd yr enillydd yn cael cynnig y swydd ac os yw’n gwrthod mae’r broses yn ail gychwyn ond o’i derbyn fe fydd yn cael ei arwain yn syth i ystafell y dagrau - La Stanza Delle Lacrime, ger yr allor, a’r enw yn arwydd o emosiwn pabau dros y canrifoedd yn y munudau cyntaf ar ôl eu hethol.  

Yno fe fydd yn cael ei wisgo mewn gwisg wen a mantell goch er i’r pab Ffransis wrthod mawredd y fantell. Mae gwisgoedd o feintiau gwahanol wedi eu paratoi.

Fe fydd yn cael ei hebrwng wedyn i falconi Basilica i’w ddatgelu i’r byd  a’r geiriau yn atsain ar draws Sgwâr San Pedr 'habemus papam!' Mae gennym Bab!

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.