'Angen deffro': Cefnogaeth Llafur Cymru ‘ar ei hisaf’ ers dechrau datganoli
'Angen deffro': Cefnogaeth Llafur Cymru ‘ar ei hisaf’ ers dechrau datganoli
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi dweud bod angen i'w phlaid "ddeffro" wrth i arolwg newydd awgrymu bod cefnogaeth y Blaid Lafur yng Nghymru wedi syrthio i “isafbwynt hanesyddol”.
Mae'r arolwg newydd gan YouGov flwyddyn cyn etholiad nesaf y Senedd yn awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen gyda 30% o’r bleidlais, Reform yn ail ar 25%, Llafur ar 18% a’r Ceidwadwyr ar 13%.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 7%, y Gwyrddion ar 5% a phleidiau llai ar 2%.
Fe gafodd 1,265 o oedolion eu holi rhwng 23 - 30 Ebrill gan YouGov ar ran ITV a Phrifysgol Caerdydd.
Dywedodd trefnwyr yr arolwg barn mai dyma fyddai “canlyniad gwaethaf Llafur erioed ers dechrau datganoli”.
Mae'r blaid wedi ennill pob etholiad i'r Senedd ers 1999, ond heb fwyafrif o'r seddi.
Wrth ymateb dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan nad oedd “yn arolwg barn da iawn”.
“Rydw i’n gobeithio ei fod yn deffro pobl, nid ni fel plaid yn unig ond hefyd y cyhoedd,” meddai wrth ITV Cymru.
“Mae yna berygl go iawn na fydd y Blaid Lafur mewn grym yn y dyfodol ac mae angen i bobl feddwl yn ofalus iawn am bwy maen nhw ei eisiau wrth y llyw.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod pobl yn troi at y blaid oherwydd mai hi yw’r “unig blaid sy’n sefyll dros fuddiannau Cymru, gan gynnig llywodraeth gredadwy yn 2026”.
“Mae’r Blaid Lafur wedi bradychu’r rhai a’i rhoddodd mewn grym yn San Steffan," meddai, "ac mae Eluned Morgan wedi eu cefnogi nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran Reform: "Mae’r ffigyrau diweddaraf hyn yn cadarnhau’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei glywed ar lawr gwlad ledled Cymru, sef bod pobl yn barod am newid go iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: “Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r unig ddewis arall credadwy i Lywodraeth Lafur - plaid sydd wedi cael ei chefnogi’n rheolaidd gan Blaid Cymru dros y 26 mlynedd diwethaf.”
'Hollti'
Dywedodd Dr Jac Larner, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, bod yr arolwg yn dangos “symudiad sylweddol o arolygon barn blaenorol”.
Roedd yn rhagamcanu ar sail yr arolwg barn y byddai Plaid Cymru yn ennill 35 o seddi, Reform yn ennill 30, Llafur yn ennill 19 y Ceidwadwyr ar naw a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar dair sedd.
Ond fe allai unrhyw newid bach ym mwriadau pleidleisio pobl allu cael effaith sylweddol ar y canlyniad, meddai.
“Mae angen cofio mai pôl unigol ydyw,” meddai. “Serch hynny mae’n adlewyrchu patrwm sydd i’w weld ar draws y DU.
“Mae cefnogaeth Llafur a’r Ceidwadwyr fel petai ar drai a’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru wedi hollti rhwng pedair plaid wahanol.
“I'r Ceidwadwyr, dyma un o’r canlyniadau gwaethaf i’r blaid yn arolygon barn Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf.
“Mae'r arolwg yn awgrymu bod Reform UK mewn sefyllfa gref i’w sefydlu ei hun fel y blaid ar y dde sy'n fwyaf amlwg yn apelio at y bloc o bleidleiswyr yng Nghymru sy'n uniaethu â Phrydain.
“Yng nghyd-destun Cymru, Plaid Cymru sy'n elwa fwyaf ar draul Llafur, gan fwynhau rhai o'u ffigurau cryfaf yn hanesyddol mewn arolwg barn.”