Penderfynu ar wahodd Eisteddfod yr Urdd i Wynedd yn 2028
Bydd aelodau cabinet Cyngor Gwynedd yn penderfynu a ydyn nhw am wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r sir yn 2028 mewn cyfarfod yr wythnos nesa'.
Mae’n dros 10 mlynedd ers i Eisteddfod yr Urdd, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy’n denu tua 100,000 o ymwelwyr yn flynyddol, gael ei chynnal yn y sir, a hynny yn y Bala yn 2014.
Fe fydd penderfyniad ddydd Mawrth, 13 Mai ar gymeradwyo ymrwymiad mewn egwyddor i wahodd yr Urdd i gynnal Eisteddfod yr Urdd yng Ngwynedd yn 2028.
Mae disgwyliad i’r Cyngor sy'n gwahodd yr Eisteddfod wneud cyfraniad ariannol o £200,000 tuag at gynnal yr ŵyl, sy’n cyfateb i 8% o’r holl gostau o gynnal Eisteddfod.
Ni fyddai pleidlais o blaid yn golygu y bydd yr Eisteddfod o reidrwydd yn dod i Wynedd, na chwaith yn penderfynu lle yng Ngwynedd y bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal.
Mae gofyn i Awdurdodau Lleol fynegi eu diddordeb mewn cynnal Eisteddfod bob pum mlynedd yn arferol, er mwyn gallu cynllunio ymlaen a rhannu’r baich ar draws Awdurdodau Lleol Cymru.
“Mater i’r Urdd a’r pwyllgorau lleol fyddai penderfynu ar ranbarth a lleoliad yr Ŵyl,” meddai’r adroddiad i'r cabinet.
“Yn y gorffennol, mae Cyngor Gwynedd wedi cynorthwyo i adnabod safleoedd addas ac asesu opsiynau i’w hargymell i’r Urdd, a fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol a chytuno ar y safle.”
'Bodlon'
Yn ogystal â’r Bala mae Gwynedd wedi cynnal eisteddfodau yng Nglynllifon yn 2012 a Phen Llŷn yn 1998 yn y 30 mlynedd diwethaf.
Mae hefyd wedi cynnal pedair Eisteddfod Genedlaethol, yn 2023, 2009, 2005 ac 1997.
Mae dau ranbarth Urdd yng Ngwynedd - Eryri (Arfon/Dwyfor) a Meirionnydd.
Dywedodd yr adroddiad i'r cabinet y byddai cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngwynedd yn dod â buddion amlwg i Wynedd gan gynnwys: y budd i Blant a Phobl Ifanc, gwerth economaidd, yr iaith, diwylliant, a sylw i’r sir ar y cyfryngau.
Os bydd cynghorwyr yn penderfynu o blaid y gwariant ychwanegol “rwyf yn fodlon bydd adnoddau digonol yn y Gronfa i ariannu’r ymrwymiad hwn, os yw hynny’n flaenoriaeth i’r Cabinet,” meddai prif swyddog cyllid y sir.