Tafarndai i gau'n hwyrach os bydd Cymru yn mynd yn bell yn yr Euros
Bydd tafarndai yn cael aros ar agor tan yn hwyrach os bydd Cymru yn mynd yn bell ym Mhencampwriaethau Euro 2025 UEFA.
Bydd oriau cau yn cael eu gohirio o’r amser arferol o 23:00 nes 01.00 fel bod cefnogwyr pêl-droed yn gallu cael amser ychwanegol i ddathlu gyda’i gilydd, os bydd Cymru neu Loegr yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol neu rownd derfynol, yn ôl cyhoeddiad y Swyddfa Gartref.
Bydd yr oriau trwyddedu yn cael eu llacio i nodi achlysur o “arwyddocâd cenedlaethol eithriadol”, wedi i dîm Cymru gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth am y tro cyntaf.
Mae Cymru a Lloegr wedi eu dewis i fod yn yr un grŵp, ochr yn ochr â Ffrainc a’r Iseldiroedd.
Dywedodd y gweinidog plismona, y Fonesig Diana Johnson: “Does dim byd sy’n dod â phobl at ei gilydd fel gwylio ein timau pêl-droed cenedlaethol, a dyna pam rydyn ni eisiau i gefnogwyr allu mwynhau pob munud o’r gemau hyn."
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas y Diwydiannau Nos, Michael Kill, fod yr oriau estynedig yn “gam cadarnhaol a blaengar” sy’n “cydnabod pêl-droed menywod a’i arwyddocâd diwylliannol”.
Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 5 Gorffennaf.
Bydd y rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal ar 22 a 23 Gorffennaf tra bod y rownd derfynol ar 27 Gorffennaf.