Dyn yn euog o lofruddio dynes yn ei chartref yn Y Rhyl
Mae dyn 34 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio dynes 69 oed yn ei chartref yn Y Rhyl.
Fe wnaeth Dean Mears o Fae Kinmel gyfaddef dynladdiad ond roedd wedi gwadu iddo lofruddio Catherine Flynn yn yr ymosodiad yn ei chartref ar 24 Hydref y llynedd.
Wedi achos tair wythnos o hyd yn Llys y Goron Caernarfon, daeth y rheithgor i'r casgliad fod Dean Mears yn euog ddydd Iau.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio yr Uwch-arolygydd Lee Boycott: "Ar 24 Hydref 2024, fe wnaeth Dean Mears dorri i fewn i gartref Cathy Flynn tra'r oedd hi'n cysgu gan sathru'n ffyrnig arni dro ar ôl tro mewn ymosodiad creulon a threisgar.
"Nid oedd modd i Cathy oroesi ei hanafiadau ac yn drasig, bu farw'r diwrnod canlynol.
"Fe welodd merch Cathy ei weithredoedd ffiaidd ar ei fideo cloch drws, ac fe fydd hynny yn aros gyda hi a'i theulu am byth."
Bydd Mears yn cael ei ddedfrydu ar 20 Mehefin.