Newyddion S4C

Cwest yn clywed bod menyw o Gaerdydd 'wedi marw ar ôl cael ei thrywanu'

Paria Veisi

Mae cwest i farwolaeth menyw 37 oed o ardal Cathays yng Nghaerdydd wedi clywed ei bod wedi marw ar ôl cael ei thrywanu. 

Cafodd corff Paria Veisi ei ddarganfod mewn ym Mhen-y-lan yn y brifddinas ar 19 Ebrill. 

Roedd hyn wythnos ar ôl iddi ddiflannu ar ôl gadael ei gwaith yn Nhreganna.

Mae Alireza Askari, 41, wedi ei gyhuddo o lofruddio Ms Veisi, atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus o gorff marw ac ymosod ar berson gan achosi niwed corfforol.

Cafodd cwest i farwolaeth Ms Veisi ei agor yn Llys Crwner Ardal Canol De Cymru ym Mhontypridd ddydd Iau.

Dywedodd swyddog y crwner fod adroddiad post-mortem wedi nodi canfyddiad cychwynnol y farwolaeth fel clwyfau trywanu yn y gwddf a rhan uchaf y frest.

Fe wnaeth y crwner Patricia Morgan ohirio'r cwest tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.

"Ar sail y dystiolaeth sydd wedi’i chyflwyno i mi bore 'ma, mae gen i le i amau ​​y gallai ei marwolaeth fod yn dreisgar ei natur," meddai.

"Rwyf wedi cael gwybod gan Heddlu De Cymru bod ymchwiliad ar y gweill ac ar y sail yma, rwy’n gohirio y cwest nes i mi gael gwybod bod yr achos troseddol wedi dod i ben."

Fe wnaeth Ms Morgan anfon ei chydymdeimlad at deulu a ffrindiau Ms Veisi.

Ymddangosodd Askari yn Llys y Goron Caerdydd ar 22 Ebrill ynghŷd â Maryam Delavary, 48, o White City yng ngorllewin Llundain.

Mae Delavary wedi’i chyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus o gorff marw ac o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae disgwyl i achos llys pedair wythnos ddechrau ym mis Hydref.

Fe wnaeth lluniau teledu cylch cyfyng gadarnhau bod Ms Veisi wedi gadael ardal Treganna ar 12 Ebrill yn ei Mercedes GLC 220 du. 

Cafwyd hyd i'r car ar 15 Ebrill ym Mhen-y-lan.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.