Dŵr Cymru yn cael dirwy o £1.35 am 'fethiannau' yn ymwneud â gollwng carthion
Dŵr Cymru yn cael dirwy o £1.35 am 'fethiannau' yn ymwneud â gollwng carthion
Mae Dŵr Cymru wedi cael dirwy o £1.35 miliwn ar ôl pledio’n euog i dros 800 achos yn ymwneud â thorri trwyddedau amgylcheddol wrth ollwng carthion.
Roedd y cwmni wedi pledio'n euog i 15 o gyhuddiadau yn ymwneud ag 800 o droseddau yn 2020 a 2021.
Yn ôl y barnwr rhanbarthol, roedd y cwmni wedi bod yn esgeulus.
Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng 2020 a 2021, a hynny ar draws 300 o safleoedd ledled Cymru a Swydd Henffordd.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn "cydnabod ein bod wedi methu gyda’n cydymffurfiaeth yn ystod 2020/21 ac fe wnaethom bledio’n euog ar y cyfle cyntaf."
Ers 2010, mae gofyn wedi bod ar gwmnïau dŵr i gynnal gwaith hunanfonitro ar eu gollyngiadau o’u gweithfeydd carthffosiaeth a’u gweithfeydd trin dŵr.
Roedd ansawdd y wybodaeth yn adroddiad blynyddol Dŵr Cymru ar gyfer 2020, a gafodd ei gyflwyno i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wedi “dirywio’n amlwg” o gymharu â blynyddoedd blaenorol, gyda thros 600 achos o dorri trwyddedau wedi’u cofnodi ar yr adeg yna, medd CNC.
Wrth siarad yn y llys ddydd Iau, dywedodd Dŵr Cymru mai ailstrwythuro mewnol yn ogystal â materion amserlennu ar-lein yn dilyn y pandemig oedd y prif ffactorau y tu ôl i’r dirywiad.
Roedd sefyllfa’r cwmni wedi “gwella’n sylweddol” erbyn adroddiad blynyddol 2021 ond roedd “nifer o achosion o ddiffyg cydymffurfio” yn parhau, medd CNC.
'Methiannau'
Dywedodd Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r achos hwn yn amlygu diffygion ym mhrosesau Dŵr Cymru a arweiniodd at lawer o achosion o dorri amodau trwyddedau ledled Cymru a thros y ffin dros gyfnod o ddwy flynedd.
“Er ein bod yn gwerthfawrogi’r tarfu a wynebodd pob busnes yn ystod 2020 yn sgil pandemig Covid-19, rydym yn credu y gellid fod wedi osgoi’r methiannau a ddangoswyd gan Dŵr Cymru gyda gwell cynlluniau wrth gefn.
“Mae perfformiad Dŵr Cymru wedi parhau i ddirywio ers nifer o flynyddoedd bellach, ac mae hyn yn rhybudd clir i’r cwmni na fyddwn yn oedi cyn defnyddio ein pwerau gorfodi i sicrhau’r gwelliannau rydym yn disgwyl eu gweld.”
Dywedodd CNC hefyd bod data coll o 2020 yn golygu nad oedd modd iddynt “ymateb yn llawn i unrhyw effeithiau amgylcheddol.”
Maen nhw’n dweud ei bod yn bosib mai mân achosion o ddiffyg cydymffurfio oedd pob achos ar ei phen ei hun ond bod ‘na effaith “arwyddocaol” gyda’r holl doriadau yn ei chyfanrwydd.
Mae CNC wedi israddio Dŵr Cymru o fod yn gwmni pedair seren (yn arwain y diwydiant) yn 2020 i gwmni dwy seren (angen gwella) yn 2022 a 2023 fel rhan o’i Asesiad Perfformiad Amgylcheddol blynyddol.
Yn ystod 2023, cofnododd Dŵr Cymru ei berfformiad gwaethaf erioed, gyda chynnydd mewn digwyddiadau llygredd sylweddol a gostyngiad mewn hunangofnodi digwyddiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Mae gan Dŵr Cymru record dda o gydymffurfiaeth â'n cyfrifoldebau monitro cyn ac ar ôl y cyfnod hwn. Fe wnaeth cymysgedd o ffactorau effeithio ar ein gwaith yn ystod 2020-21 gan gynnwys pandemig COVID-19.
"Bydd Dŵr Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'n rheoleiddwyr i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dwy brif flaenoriaeth, y gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid a diogelu'r amgylchedd."