Newyddion S4C

81 bellach yn sâl ar ôl sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid

Bwydo oen

Mae 81 o bobl bellach wedi mynd yn sâl ar ôl sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid yn Siop Fferm y Bont-faen ym Mro Morgannwg.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ymchwilio i nifer o achosion o'r haint cryptosporidiwm ymhlith pobl sydd wedi bod mewn cyswllt â lloi ac ŵyn yn y siop yn Fferm Marlborough Grange.

Math o salwch yw cryptosporidium sy'n gallu achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn, a chrampiau stumog. 

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 16 o bobl wedi gorfod treulio o leiaf noson yn yr ysbyty o ganlyniad i’r haint.

Fe gafodd pedwerydd cyfarfod o dîm traws-sefydliadaol i fynd i’r afael â’r ymlediad ei gynnal ddydd Mercher.

Pan gyhoeddwyd yr ymchwiliad ddechrau’r mis roedd yna 28 achos o'r haint ond mae’r niferoedd wedi cynyddu ers hynny. 

Fe wnaeth y fferm roi’r gorau i bob gweithgaredd bwydo anifeiliaid ar gyfer y cyhoedd yn wirfoddol ar 29 Ebrill.

Dywedodd Beverley Griggs, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod nhw’n “parhau i weithio gyda’n partneriaid i ymchwilio i’r achos hwn ac i leihau’r risg o drosglwyddo pellach”. 

“Mae haint Cryptosporidiwm fel arfer yn diflannu heb driniaeth, ond gall fod yn fwy difrifol i blant ifanc a phobl â systemau imiwnedd gwan," meddai.

“Rydym yn cynghori unrhyw un a wnaeth ymweld â’r fferm ac sy’n profi symptomau fel dolur rhydd, poen stumog neu deimlo’n gyfoglyd i gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio GIG 111 Cymru.

“Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol y gellir trosglwyddo’r haint hwn o berson i berson, os byddwch chi’n dechrau profi’r symptomau hyn ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi’u profi ar ôl ymweld â’r fferm, dylech chi hefyd gysylltu â’ch meddyg teulu neu GIG 111 Cymru. 

“Mae hylendid dwylo da gartref, yn enwedig cyn bwyta neu baratoi bwyd, yn hanfodol i helpu i atal y lledaeniad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.