Newyddion S4C

Disgwyl y bydd Putin yn osgoi trafodaethau heddwch gydag Wcráin yn Nhwrci

Zelenksy, Trump a Putin

Nid yw Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi ei enwi ar restr y Kremlin o'r rheini fydd yn mynd i drafodaethau heddwch ar y rhyfel yn Wcráin yn Instanbul ddydd Iau.

Roedd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi herio Vladimir Putin i gynnal trafodaethau wyneb i wyneb.

Bydd dirprwyaeth Rwsia yn bresennol dan arweiniad y cynorthwyydd arlywyddol, Vladimir Medinsky, yn ôl datganiad y Kremlin.

Ddydd Sul, galwodd Putin am sgyrsiau uniongyrchol rhwng Rwsia a Wcráin yn ninas fwyaf Twrci "heb rag-amodau".

Yna cyhoeddodd Volodymyr Zelensky y byddai'n mynd yn bersonol a'i fod yn disgwyl i arlywydd Rwsia deithio yno hefyd.

Mae Zelensky eisoes wedi dweud y byddai’n mynychu trafodaethau ac yn cwrdd â Putin yn bersonol pe bai’n cytuno a dywedodd y byddai'n gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y cyfarfod wyneb yn wyneb yn digwydd.

Does dim disgwyl y bydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn bresennol chwaith, er iddo awgrymu’n flaenorol y byddai’n mynd pe bai Putin yno.

'Penderfynu'

Bydd Zelensky ym mhrifddinas Twrci, Ankara, ddydd Iau i gyfarfod â’r Arlywydd Recep Tayyip Erdogan.

Dywedodd y byddai'n mynychu trafodaethau uniongyrchol yn Istanbul gyda Rwsia, ond dim ond pe bai Putin hefyd yn mynychu.

"Rwy'n aros i weld pwy fydd yn dod o Rwsia, ac yna byddaf yn penderfynu pa gamau y dylai Wcráin eu cymryd,” meddai mewn fideo nos Fercher.

Nid yw Putin a Zelensky wedi cyfarfod wyneb yn wyneb ers mis Rhagfyr 2019.

Dywedodd arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, sydd ar hyn o bryd yn Qatar, wrth ohebwyr nad oedd yn gwybod a fyddai Putin yn bresennol "os nad ydw i yno".

"Rwy'n gwybod y byddai'n hoffi i mi fod yno, ac mae hynny'n bosibilrwydd. Os allen ni ddod â'r rhyfel i ben, byddwn i'n meddwl am hynny," meddai Trump.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.