Newyddion S4C

Aelod Cymreig o gôr Sgandal Swyddfa’r Post yn gweld cyfle i 'greu atgofion hapus'

ITV Cymru
Hear Our Voice

Mae aelodau Hear Our Voice am gadw eu stori ym meddyliau pobl.

Yn ôl ym mis Mawrth, fe wnaeth y côr fentro i lwyfan Britain’s Got Talent i ganu o’r galon, â phob un ohonyn nhw wedi'u huno gan eu profiadau o sgandal swyddfa'r post.

Mae Tim Brentnall, sy’n dod o Sir Benfro, yn un o’r aelodau. Fe wnaeth weithio yn galed i ailadeiladu ei fywyd ar ôl iddo gael ei erlyn ar gam 15 mlynedd yn ôl.

Image
Tim Brentnall

“Yn 2009, ces i fy archwilio pan wnaethon nhw ddarganfod £22,500 o arian coll yr oedd yn rhaid i mi ei dalu yn ôl," meddai.

"Yna fe wnaeth Swyddfa'r Post fy nghyhuddo o gadw cyfrifon ffug.

“Ar y pryd, doeddwn i ddim yn deall beth oedd wedi digwydd, ond fe wnaethon nhw ddweud wrtha’i mai fi oedd yr unig un oedd yn cael problem fel hon.

“Chi’n colli parch, eich enw da, ac mae'n teimlo fel bod pobl yn siarad amdanoch chi drwy'r amser,” meddai Tim.

Fe gaeth euogfarn Tim ei gwrthdroi yn 2021, ond mae e’n dal i aros am iawndal, fel llawer o is-bostfeistri eraill sgandal Horizon.

Roedd sefydlu'r côr yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud rhywbeth positif gyda'i gilydd, meddai.

Image
Tim Brentnall

“Mae’r côr wedi helpu i gryfhau ein perthynas a'n cyfeillgarwch, ac rydyn ni wedi creu atgofion hapus gyda'n gilydd,” meddai Tim.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw am iddyn nhw dderbyn iawndal cyn gynted a bo modd.

Yn y cyfamser, bydd llygaid cynulleidfa Britain’s Got Talent ar y côr y penwythnos hwn, pan fyddan nhw’n camu i’r llwyfan unwaith eto yn y rowndiau cynderfynol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.